25 Maw 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cyhoeddi menter ledled Cymru i gefnogi cyflwyno seilwaith gwefru cerbydau trydan (EV) drwy ddarparu mynediad am ddim i bob un o'r 22 Awdurdod Lleol i blatfform data cenedlaethol a rennir, ChargePoint Navigator.
Mae ChargePoint Navigator wedi'i gynllunio i symleiddio’r broses o ddewis safle, lleihau costau a chefnogi cynllunio seilwaith cerbydau trydan i awdurdodau lleol.
Drwy nawdd TrC, bydd bellach gan bob Awdurdod Lleol yng Nghymru fynediad at sylfaen dystiolaeth gyffredin, a fydd yn cefnogi buddsoddiad cyson, tryloyw mewn seilwaith gwefru sy'n cynnig gwerth da am arian ac sy’n cyd-fynd â pholisïau trafnidiaeth cenedlaethol.
Dyma'r tro cyntaf i'r platfform weithredu ar lefel genedlaethol y tu allan i Loegr. Wedi'i ariannu a'i gyd-ddatblygu'n wreiddiol gan UK Power Networks Distribution System Operator (DSO) a Field Dynamics, mae ChargePoint Navigator eisoes wedi'i fabwysiadu gan fwy na chant o awdurdodau lleol yn ardal weithredol UK Power Networks ac mae wedi'i gymeradwyo'n eang gyda sgôr boddhad cwsmeriaid o 94%.
Mae hyn yn adeiladu ar y gefnogaeth ehangach y mae Trafnidiaeth Cymru eisoes yn ei chynnig i Awdurdodau Lleol i wella mynediad at ddata, cryfhau gallu mewnol a darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan sy'n gynaliadwy ac yn deg.
Mae'r fenter yn gam allweddol wrth gyflawni Cynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan Cymru, sy'n tynnu sylw at yr angen am ddulliau mwy cydlynol, sy'n seiliedig ar ddata, er mwyn gwefru cerbydau trydan ledled Cymru.
Dywedodd Tony Clayton, Rheolwr Rhaglen Seilwaith Cerbydau Trydan yn Trafnidiaeth Cymru: “Wrth i rwydwaith gwefru cerbydau trydan Cymru aeddfedu, mae ein ffocws yn symud o gynyddu nifer y gwefrwyr yn unig i sicrhau bod y ddarpariaeth yn deg, yn strategol ac yn diwallu anghenion cymunedau ledled y wlad.
"Mae ChargePoint Navigator yn cefnogi hyn drwy ddod â data cyson ac arbenigedd a rennir i un lle, gan ein helpu i godi safonau a sicrhau bod seilwaith cerbydau trydan yn cyfrannu'n llawn at ein huchelgeisiau trafnidiaeth a datgarboneiddio ehangach."
Dywedodd Craig Stephenson, Rheolwr Gyfarwyddwr Field Dynamics: “Mae Awdurdodau Lleol yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio sut mae seilwaith gwefru cerbydau trydan yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad.
“Mae’n hanfodol bod ganddyn nhw’r data a’r offer cywir wrth law i wneud penderfyniadau gwybodus ac i lunio canlyniadau’n weithredol.”
Dywedodd Lynne McDonald, Pennaeth Sero Net Lleol yn UK Power Networks DSO: “Rwy'n gyffrous ac yn falch o weld ChargePoint Navigator yn mynd y tu hwnt i'n daearyddiaethau a bellach yn genedlaethol.
"Dyluniwyd ChargePoint Navigator gyda, ac ar gyfer ein 133 o awdurdodau lleol i roi'r hyder a'r dystiolaeth sydd eu hangen arnynt i gynllunio seilwaith sy'n deg, yn gyfartal ac yn gweithio i'w cymunedau.”
Nodiadau i olygyddion
Wedi'i ariannu a'i gyd-ddatblygu'n wreiddiol gan UK Power Networks Distribution System Operator (DSO) a Field Dynamics, mae ChargePoint Navigator wedi cael ei ddefnyddio ledled Llundain, dwyrain a de-ddwyrain Lloegr ers 2024/25, lle mae'n gwasanaethu 133 o awdurdodau lleol.
Mae hwn yn ymrwymiad ar y cyd rhwng Trafnidiaeth Cymru, Field Dynamics a UK Power Networks DSO i sicrhau bod manteision y newid i gerbydau trydan yn hygyrch i gymunedau ar draws pob cwr o gymdeithas.