Skip to main content

Transport for Wales opens applications for 2026 accelerator programme.

11 Chw 2026

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwahodd arloeswyr, entrepreneuriaid a busnesau newydd i helpu i lunio dyfodol trafnidiaeth drwy Lab gan Gyflymydd Trafnidiaeth Cymru 2026. 

Mae ceisiadau ar gyfer Cyflymydd Trafnidiaeth Cymru bellach ar agor gyda'r rhaglen 10 wythnos wedi'i chynllunio i ddatblygu syniad  cychwynnol yn gynnyrch, gyda'r cyfle i ddefnyddio'ch syniad ar draws Trafnidiaeth Cymru.  

Mae rhaglen cyflymu eleni yn gwahodd cynigion ar draws y meysydd her allweddol hyn:  

  • Diogelwch a Chynaliadwyedd  
  • Roboteg, Cwantwm ac Argraffu 3D  
  • Profiad Cwsmer  
  • Wildcard: Dyfodol Trafnidiaeth – Sicrhau bod TrC yn Barod am y Dyfodol  

Mae'r cyflymydd yn agored i unrhyw sefydliad, entrepreneur, busnes cychwynnol neu fusnes sy'n awyddus i dyfu sydd â chynnyrch neu syniad a all fynd i'r afael â heriau trafnidiaeth yn y byd go iawn a sicrhau effaith ystyrlon. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn elwa o:  

  • Mynediad at gyllid i alluogi arloesedd  
  • Hyfforddiant Ymchwil a Datblygu arbenigol i fireinio a datblygu eu syniadau  
  • Mentora arbenigol a chymorth gan y diwydiant  
  • Y cyfle i ddefnyddio eu harloesedd gyda Thrafnidiaeth Cymru  

Ar ddiwedd y 10 wythnos, bydd yr holl fusnesau sy'n cymryd rhan yn y rhaglen yn cyflwyno eu MVP (Cynnyrch Sylfaenol Hyfyw) ar Ddiwrnod y Cyflwyniad, gyda'r nod o sicrhau cyllid gyda Thrafnidiaeth Cymru.   

Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus y sicrwydd ariannol a'r mynediad i'r adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu eu cynnyrch neu wasanaeth ymhellach i'w hintegreiddio ar draws y rhwydwaith.  

Dyddiad cau derbyn ceisiadau yw 12pm ar 20 Mawrth 2026.  

Am ragor o wybodaeth ewch i'r ddolen ganlynol: Lab by Transport For Wales Accelerator Application - 2026 | SimplyDo