30 Medi 2026
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cychwyn partneriaeth newydd gyda Chymdeithas Bêl-Droed Cymru er mwyn gwella trafnidiaeth gyhoeddus i gefnogwyr sy'n teithio hyd a lled Cymru i wylio gemau cenedlaethol ein gwlad.
Fel partner teithio swyddogol Cymdeithas Bêl-Droed Cymru (CBDC), mae TrC am barhau i gefnogi gemau cenedlaethol a gemau o bwys i Gymry yng Nghymru gyda mwy o wasanaethau rheilffyrdd a chapasiti ychwanegol.
Mae'r bartneriaeth yn rhan o ymdrech ehangach gan TrC a CBDC i sicrhau bod teithio ar ddiwrnod gêm yn wyrddach, yn haws ac yn fwy hygyrch i gefnogwyr ledled Cymru.
Fel rhan annatod o wead Cymru, mae TrC eisiau cefnogi cefnogwyr a diwylliant pêl-droed cryf Cymru yn ogystal â datblygu ffyrdd haws i gefnogwyr brynu tocynnau.
Mae TrC hefyd eisiau ymgysylltu â phêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru ac annog teithio'n fwy cynaliadwy trwyddi draw.
Mae’r bartneriaeth yn parhau’r hydref hwn, gyda gwasanaeth uniongyrchol 22:44 pwrpasol o Gaerdydd Canolog i Gaergybi ar ôl pob un o'r tair gêm gartref yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA, wedi treial llwyddiannus yn ystod gemau ail-gyfle Cwpan y Byd.
Bydd y gwasanaeth yn gweithredu ar ôl y gemau hyn:
- Dydd Iau 1 Hydref | Cymru v Norwy
- Dydd Sul 4 Hydref | Cymru v Denmarc
- Dydd Mawrth 17 Tachwedd | Cymru v Portiwgal
Cynghorir cefnogwyr sy'n teithio ar Ddydd Sul 4 Hydref i gynllunio eu teithiau ymlaen llaw, gan y bydd Hanner Marathon Caerdydd hefyd yn cael ei gynnal yn gynharach y diwrnod hwnnw.
Dylai teithwyr gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau.
Dywedodd Lewis Brencher, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid a Chyfathrebu TrC: "Rydym yn deall pa mor boblogaidd yw ein gwasanaethau rheilffyrdd i gefnogwyr sy'n teithio i gemau cenedlaethol, a hefyd i gemau mawr Cymru ac rydym am sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl.
"Fel partner teithio swyddogol CBDC, byddwn yn parhau i weithio ar y cyd i ddarparu mwy o wasanaethau rheilffyrdd a chapasiti ychwanegol ar gyfer gemau allweddol.
"Fel rhan o'r bartneriaeth newydd, bydd gwasanaethau cynllunio teithiau a thocynnau TrC yn cael eu hintegreiddio yn ap CBDC, gan ganiatáu i gefnogwyr gynllunio ac archebu eu taith i gemau ledled Cymru mewn un lle.
"Mae TrC yn rhan o wead bywyd yng Nghymru, gan gysylltu pobl â llefydd a'i gilydd, ac rydym yn gweld y bartneriaeth hon fel ffordd o gefnogi diwylliant pêl-droed a chefnogwyr Cymru, a hefyd fel ffordd o ymgysylltu â'r gymuned bêl-droed ar lawr gwlad a'i hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy."
Ychwanegodd Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Rydym yn falch iawn o fod yn bartner â chyd-frand sy’n cefnogi cenedl Cymru gyda Trafnidiaeth Cymru, gyda'r nod clir o ddatgarboneiddio teithio cefnogwyr a chyfranogwyr ein gêm ble bynnag y bo modd.
"Mae 120,000 o bêl-droedwyr ar lawr gwlad Cymru yn gwneud miliynau o deithiau y flwyddyn i gymryd rhan mewn gemau a sesiynau hyfforddi, tra bod ein cefnogwyr yn teithio o bob cornel o Gymru i wylio eu Tîm Cenedlaethol yn eu cynrychioli ar lwyfan y byd.
"Drwy'r bartneriaeth hon, bydd Trafnidiaeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwobrwyo arferion teithio cynaliadwy ar lefel clwb a thîm cenedlaethol, gan ysgogi newid ymddygiad i helpu i wneud pêl-droed Cymru yn garbon niwtral, er mwyn gwarchod yr amgylchedd naturiol sydd ei angen arnom i barhau i chwarae pêl-droed a gwella lles pawb yng Nghymru."
Gall cefnogwyr gynllunio ac archebu eu teithiau drwy ap CBDC neu drwy ymweld ag ap neu wefan TrC - www.trc.cymru