Skip to main content

TfW awarded Gold membership by The 5% Club

20 Tach 2023

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod The 5% Club wedi dyfarnu Aelodaeth Aur i ni drwy eu Cynllun Archwilio Cyflogwyr 2023-24.

Mae’r wobr hon yn cydnabod ein cyfraniad sylweddol at ddatblygiad parhaus ein holl gydweithwyr drwy gynlluniau “gweithio a dysgu” fel ein Prentisiaethau, ein Cynlluniau i Raddedigion a’n Lleoliadau Gwaith i Fyfyrwyr a Noddir. 

Rydyn ni’n falch o’n buddsoddiad yn ein cydweithwyr, a dyna pam ein bod wedi ymuno â The 5% Club. Mudiad deinamig o gyflogwyr yw The 5% Club sydd wedi cael eu hysbrydoli i gymryd camau cadarnhaol i gynnig mwy o hyfforddiant yn y gweithle a’i wneud yn gynhwysol a hygyrch i bawb.

Nod y mudiad, a lansiwyd yn 2013, yw gwella rhagolygon pobl ifanc o ran eu cyflogaeth a’u gyrfaoedd gan feithrin y gweithlu medrus sydd ei angen ar y DU i ddiogelu’r economi.

Mae gan The 5% Club dros 900 o gwmnïau yn aelodau ac mae’n cynrychioli dros 1.6 miliwn o weithwyr, gan gynnwys 101,000 sy’n rhan o gynlluniau “gweithio a dysgu”. Mae’r Cynllun Archwilio Cyflogwyr yn unigryw gan ei fod yn dilysu gweithgareddau’r cyflogwyr, yn archwilio eu cynlluniau a’u hymrwymiadau i’r dyfodol, yn ogystal ag edrych ar eu hagweddau at ansawdd, symudedd cymdeithasol, amrywiaeth a chynhwysiant. 

Mewn rhestr glodwiw o 180 o aelodau, roedd TrC yn un o’r 120 o Gyflogwyr a lwyddodd i fodloni’r Safon Aur.  

Dywedodd Bethan Jelfs, Cyfarwyddwr Pobl TrC: “Ym mis Chwefror eleni, fe wnaethon ni gyhoeddi bod TrC wedi dod yn aelod o The 5% Club, gan ymrwymo y bydd 5% o’n gweithlu yn cymryd rhan mewn cynlluniau “gweithio a dysgu” yn ystod y pum mlynedd nesaf.  

“Yr haf hwn, fe gymeron ni ran yn ein harchwiliad cyntaf un, yn y gobaith o ennill achrediad aur, arian neu efydd. Rydyn ni mor falch o glywed ein bod wedi cyflawni’r safon aur a’n bod eisoes wedi cyrraedd ein targed o 5%.  

 “Mae hon yn gamp anhygoel, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu ein gwaith yn y maes hwn fwy fyth.” 

Ychwanegodd Gill Cronin, Cyfarwyddwr Gweithrediadau The 5% Club: “Mae’r Clwb bellach wedi tyfu i fwy na 900 o aelodau, ac mae ymrwymiad, egni a dycnwch ein haelodau bob amser yn creu argraff arna i wrth iddyn nhw gynnig cyfleoedd “gweithio a dysgu”.

"Mae’n braf gweld bod 20 y cant o’r aelodau hyn wedi cyrraedd safon aelodaeth achrededig Efydd, Arian, Aur a Phlatinwm o’r Clwb, ac mae’n dangos sut mae’r cwmnïau hyn i gyd yn cyfrannu at ddyfodol sgiliau yn ein heconomi.” 

Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am TrC a’r amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael gennym i fynd i’n gwefan Ein Swyddi Gwag | Gyrfaoedd | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)

I gael rhagor o wybodaeth am The 5% Club, ewch i https://www.5percentclub.org.uk/