12 Meh 2020
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i hybu teithio llesol a bydd yn darparu cannoedd o leoedd parcio beic yng ngorsafoedd Cymru a Lloegr.
Mae effaith argyfwng covid19 presennol wedi cynyddu’r galw sydd am fwy o gyfleusterau teithio llesol er mwyn annog gweithwyr rheng flaen i gerdded a beicio ar lwybrau craidd.
Fel rhan o Weledigaeth Gwella Gorsafoedd, bydd Trafnidiaeth Cymru - dros yr ychydig flynyddoedd nesaf – yn creu canoedd o leoedd parcio beic mewn 247 o orsafoedd.
Bydd Trafnidiaeth Cymru’n gweithio’n agos gyda phartneriaid gan gynnwys Sustrans Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru i wneud y gwelliannau hyn. Mae Teithio Llesol yn rhan hanfodol o gynlluniau Trafnidiaeth Cymru i greu rhwydwaith drafnidiaeth integredig, gan gysylltu pob dull teithio a darparu gwasanaeth hygyrch a fforddiadwy.
Cwblhawyd y cynllun cyntaf yn Llanelli yn gynharach eleni lle gosodwyd 16 cylch beicio newydd ac yna ailwampio gorsaf y Fenni, gan osod 20 cawell feic newydd yn lle’r 5 hen rai oedd yno’n flaenorol.
Hefyd, bydd Trafnidiaeth Cymru’n diweddaru’r storfa feiciau bresennol gan ei wneud yn fwy hygyrch a diogel.
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth:
"Mae angen i ni wneud siwrneiau mor llyfn â phosibl - mae cael mynediad a chyfleusterau cerdded a beicio rhagorol yn rhan bwysig o hyn. Yr ydym yn dal i weithio tuag at rwydwaith trafnidiaeth sydd wedi'i integreiddio'n well, ac mae hwn yn gam arall bositif.
"Mae coronafeirws wedi gweld mwy o bobl yn beicio ac rwy'n gobeithio gweld hyn yn parhau unwaith mae'n bosib llacio cyfyngiadau teithio."
Ychwanegodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:
“Yn Trafnidiaeth Cymru, ein nod yw bob amser trawsnewid trafnidiaeth i bobl Cymru a gwella profiad y cwsmer. Rydym yn creu rhwydwaith drafnidiaeth sydd wedi’i hintegreiddio’n llawn ac mae teithio llesol yn rhan allweddol o hyn. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i greu mwy o lwybrau teithio llesol ac rydym eisoes wedi dechrau cynyddu nifer y mannau cadw beiciau sydd yn ein gorsafoedd.
“Mae Covid19 wedi cael effaith uniongyrchol ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd teithio llesol yn chwarae rhan bwysig iawn wrth inni ddod at ein hunain a’r ffordd y bydd pobl yn symud o gwmpas yn y dyfodol.”
Dywedodd Hinatea Fontenea, Pennaeth Prosiectau Gorsafoedd Trafnidiaeth Cymru:
“Dros y pedair blynedd nesaf, byddwn yn cyflawni gwaith gwella yn ein holl orsafoedd ledled Cymru a’r Gororau.
“Mae creu a cynyddu’r storfeydd beiciau yn ein gorsafoedd yn rhan allweddol o’r gwaith hwn gan y bydd yn galluogi’n cwsmeriaid i gael profiad esmwyth a thaith ddiogel, o un dull teithio cynaliadwy di-dor i’r llall.”
Dywedodd Ryland Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Sustrans Cymru:
“Rydym yn croesawu’r cynllun hwn sy’n cefnogi pobl sy’n defnyddio gwasanaethau trên am deithiau hirach ond sydd am ddefnyddio dulliau teithio llesol i fynd a dod o’r orsaf fel rhan o’r daith honno. Mae hyn yn golygu bod modd defnyddio rhwydweithiau llwybrau beics lleol yn fwy effeithiol fel rhan o system drafnidiaeth integredig. Mae pobl yn poeni y bydd rhywun yn difrodi neu’n dwyn eu beics a gwyddom fod hynny’n rhwystro llawer rhag defnyddio’r beic ar deithiau rheolaidd byrrach. Felly, mae gwybod bod yna leoedd parcio saff a diogel ar gael yn yr orsaf rheilffordd yn ffordd wych o helpu seiclwyr rheolaidd, yn enwedig gweithwyr allweddol yn y cyfnod hwn, ac i annog seiclwyr newydd”.