Skip to main content

Transport for Wales strengthens board with the appointment of three new Non-Executive Directors

28 Meh 2018

Bydd yr aelodau bwrdd newydd yn ymuno â Chadeirydd Dros Dro Trafnidiaeth Cymru, Nick Gregg, ac aelodau presennol y bwrdd, Martin Dorchester a James Price. Bydd dau aelod o’r bwrdd, Peter Kennedy a Brian McKenzie, yn camu o’r neilltu ar ôl y cyfarfod nesaf o’r bwrdd ar 2il Gorffennaf.

Dyma aelodau newydd y bwrdd, a fydd yn mynychu eu cyfarfod bwrdd cyntaf ar 2il Gorffennaf:

  • Sarah Howells, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid gyda’r gweithgynhyrchwr dodrefn o Gymru, Orangebox.
  • Nikki Kemmery, Pennaeth Iechyd a Diogelwch gyda Dŵr Cymru Welsh Water.
  • Alison Noon-Jones, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn Leidos Europe.

Gyda gweithredwr a phartner datblygu newydd rheilffordd Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru wedi’i benodi’n ddiweddar, mae Sarah, Nikki ac Alison yn ymuno â’r bwrdd ar amser cwbl allweddol. Byddant yn cryfhau bwrdd Trafnidiaeth Cymru ac yn creu mwy o amrywiaeth arno, gan gynnig cyfoeth o arbenigedd a phrofiad gwerthfawr mewn gwasanaethau cwsmeriaid, iechyd a diogelwch, ac adnoddau dynol.

Wrth groesawu’r penodiadau, dywedodd Cadeirydd Dros Dro Trafnidiaeth Cymru, Nick Gregg:

“Mae gan Trafnidiaeth Cymru rôl greiddiol i’w chwarae mewn arwain y weledigaeth dymor hir ar gyfer trafnidiaeth integredig yng Nghymru. Mae’r weledigaeth hon yn gweddnewid a bydd yn cael effaith sylweddol ar bobl, cymunedau a busnesau yng Nghymru. Nawr mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu Trafnidiaeth Cymru fel sefydliad arbenigol sy’n gallu cyflawni’r weledigaeth hon a Chadw Cymru’n Symud.

“Mae’n bleser mawr cael croesawu Sarah, Nikki ac Alison yn aelodau o’r bwrdd ac rwy’n hyderus y byddant yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad Trafnidiaeth Cymru. Hefyd fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch i Peter a Brian am eu cyfraniad gwerthfawr i Trafnidiaeth Cymru a’i fwrdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”