05 Tach 2020
Heddiw, mae Trafnidiaeth Cymru’n cefnogi lansiad Cerdyn Rheilffordd newydd i Gynfilwyr (dydd Iau 5 Tachwedd) i gydnabod y rhai a fu’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
Fe’i cyflwynir cyn gwasanaethau Sul y Cofio a’r Cadoediad ledled y DU y mis hwn. Bydd y cerdyn yn rhoi traean i ffwrdd ar docynnau safonol a dosbarth cyntaf i gyn-filwyr, a thraean i ail berson a enwir a hyd at bedwar o blant sy’n teithio gyda phrif ddeiliad y cerdyn.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae’r dynion a’r menywod dewr sydd wedi gwasanaethu eu gwlad yn haeddu ein cefnogaeth a’n diolch am yr aberthau y maent wedi’u gwneud, ac yn parhau i’w gwneud, ar ein rhan. Rwy'n falch y gallwn gefnogi ein Lluoedd Arfog ac mae'n briodol bod y Cerdyn Rheilffordd Cyn-filwyr newydd ar gael wrth i ni ddangos ein gwerthfawrogiad am eu hymrwymiad trwy'r gwasanaethau Cadoediad Sul y Coffa hwn."
Bydd y Cerdyn Rheilffordd disgownt i Gynfilwyr ar gael ar draws holl wasanaethau rheilffyrdd y DU. Mae isafswm tocyn o £12 yn berthnasol ar bob taith a wneir rhwng 04:30 a 09:59 o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus ac yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst.
Meddai James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Mae Trafnidiaeth Cymru’n falch o gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog gyda chyflwyniad Cerdyn Rheilffordd newydd i Gynfilwyr.
“Ym mis Mawrth fe wnaethom ni lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, gan ymrwymo i drin y rhai sy’n gwasanaethu neu a fu’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd yn deg a pharchus yn y cymunedau, yn ein heconomi ac mewn cymdeithas, fel teyrnged iddynt am wasanaethu â’u bywydau.
“Mae’r Cerdyn Rheilffordd i Gynfilwyr yn gam nesaf pwysig fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw ac yn ffordd i ni ddangos ein gwerthfawrogiad i bawb sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.”
Mae’r Cerdyn Rheilffordd i Gynfilwyr ar gael mewn fformat digidol neu safonol a gall unrhyw un yn y Lluoedd Arfog wneud cais gan ddefnyddio ei gerdyn adnabod Amddiffyn, cerdyn adnabod Cynfilwr neu dystysgrif gwasanaeth/rhyddhau.
Mae’n costio £21 am flwyddyn neu £61 am dair blynedd hyd at 31 Mawrth 2021, yna £30 am flwyddyn neu £70 am 3 blynedd o Ebrill 2021.
Gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn https://www.veterans-railcard.co.uk, neu drwy’r post – mae rhagor o fanylion am sut i wneud cais yma: www.veterans-railcard.co.uk/where-to-buy/.