17 Meh 2019
Bydd y caledwedd a’r meddalwedd newydd, a ddarperir gan Fujitsu, yn ateb y galw drwy roi gwell profiadau cyffredinol i gwsmeriaid, a mwy o hyblygrwydd i staff wrth iddyn nhw ddefnyddio systemau archebu
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi llofnodi cytundeb gwerth £1.9 miliwn gyda’r cwmni offer a gwasanaethau gwybodaeth rhyngwladol, Fujitsu, er mwyn uwchraddio peiriannau swyddfeydd tocynnau a setiau llaw symudol ar draws y rhwydwaith drenau. Yn ogystal, mae’r bartneriaeth yn cynnwys cytundeb cefnogi a chynnal a chadw am bum mlynedd ar gyfer y caledwedd newydd, sy’n werth £5.1 miliwn yn ychwanegol.
Dyma’r gweithredwr trenau cyntaf yn y DU i ymrwymo i’r uwchraddiad, a bydd peiriannau swyddfa tocynnau newydd Star Ticket Office Machines (TOMs), a osodwyd yn eu lle gan Fujitsu, yn darparu system gwerthu tocynnau i gwsmeriaid mewn gorsafoedd fydd yn fwy effeithiol, gan alluogi i docynnau gael eu cyhoeddi’n gynt.
Bydd y peiriannau’n gallu cael eu gweithredu’n glyfar, fel bod modd i staff allu ychwanegu tocynnau tymor i gardiau clyfar cwsmeriaid, gan roi’r dewis o system o docynnau di-bapur sy’n llawer mwy gwydn a diogel i gwsmeriaid, ac a fydd yn gwneud y broses drwyddi draw’n haws i staff a chwsmeriaid fel ei gilydd.
Yn ogystal, bydd setiau llaw staff mewn gorsafoedd ac ar drenau’n cael eu diweddaru â thechnoleg STARmobile Fujitsu, a fydd yn galluogi staff i roi gwell gwybodaeth i deithwyr ar drenau, gan alluogi teithwyr i gynllunio’u teithiau’n well.
Meddai Colin Lea, Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid gyda Thrafnidiaeth Cymru: “Rydym ni wrth ein bodd i allu cyhoeddi’r bartneriaeth hon gyda Fujitsu, ac edrychwn ymlaen at weld ein cynnig manwerthu’n gwella’n sylweddol dros y misoedd nesaf. Wrth i niferoedd teithwyr godi’n gynyddol, mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi’r atebion gorau i wella’r profiad ym myd trenau, ar gyfer ein staff cyflogedig a’n cwsmeriaid.
“Bydd y system docynnau newydd, gyflymach a mwy effeithlon hon yn gwneud teithio ar y trên yng Nghymru a’r Gororau yn haws, gan ein galluogi i gyflwyno dulliau newydd o gyhoeddi tocynnau yn y dyfodol fel ‘talu wrth fynd’, ble bydd cwsmeriaid yn cael talu’r pris gorau wrth wneud dim mwy na thapio i mewn ac allan gyda’u cerdyn.”
Meddai Paul Patterson, Uwch Is-lywydd, Arweinyddiaeth Gwerthu a Gwlad EMEIA, Fujitsu: “Mae teithiau cwsmeriaid yn troi’n gynyddol ddigidol wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, ac mae’r disgwyliadau sy’n ymwneud â chael gwybodaeth gyfredol, cysylltedd, personoli a systemau prynu tocynnau symlach yn rhoi Gweithredwyr Trafnidiaeth dan bwysau cynyddol i foderneiddio. Mae cwsmeriaid yn gyfarwydd â chael dewis helaeth iawn ar flaenau’u bysedd, ac ystyr hynny yw darparu gwasanaethau mewn dull mor gyflym, effeithiol a chyfleus â’r hyn y maen nhw’n gyfarwydd ag ef.
“Am fod rhwydwaith reilffyrdd y DU yn rhan hanfodol o isadeiledd economaidd ein gwlad, rydym ni wrth ein bodd o weld Trafnidiaeth Cymru’n arwain y maes, drwy uwchraddio’u gwerthiant mewn gorsafoedd a hefyd ar y trenau, drwy ddefnyddio cyfleusterau STAR Fujitsu ledled Cymru a Lloegr. Drwy helpu i ddarparu system brynu tocynnau fwy effeithiol i’n cwsmeriaid, gallwn ni chwarae ein rhan wrth eu helpu nhw i drawsnewid eu profiadau fel teithwyr, ac yn y pen draw, gefnogi economi Cymru i dyfu, nawr ac i’r dyfodol.”
I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidaeth Cymru, ewch i trc.cymru os gwelwch yn dda