14 Ion 2021
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ailgyflwyno amserlen teithio hanfodol Covid-19 hon o ganlyniad i’r cyfyngiadau llymach sydd mewn grym ledled Cymru a Lloegr.
Mae’r cam yn gwrthbwyso diogelwch y cwsmeriaid hynny sy’n dal i deithio am resymau hanfodol, diogelwch ein cydweithwyr ar y rheilffordd a’r angen i ddarparu gwasanaeth mor ddibynadwy â phosibl.
Mae’r newidiadau i’r amserlen yn cael eu cyflwyno ar draws y rhwydwaith cyfan o ddydd Llun 25 Ionawr ymlaen.
Er mwyn cefnogi blaenoriaeth y llywodraeth o ran iechyd y cyhoedd, sef ceisio lleihau nifer y bobl sy’n teithio, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud newidiadau byr rybudd ac yn canslo gwasanaethau sy’n golygu y dylai unrhyw un sy’n gwneud teithiau hanfodol wneud eu gwaith cartref cyn teithio.
Mae TrC yn cytuno’n llwyr â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac fe hoffem bwysleisio mai dim ond ar gyfer teithiau hanfodol y dylid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, pan nad oes dewis arall ar gael. Mae’r rheini sydd angen teithio o hyd yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw ac i gadarnhau manylion eu taith ar y diwrnod teithio ar trc.cymru.
Dywedodd Alexia Course, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Rheilffyrdd, Trafnidiaeth Cymru
“Diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth o hyd.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n darparu gwasanaeth priodol i ddiwallu anghenion y cwsmeriaid hynny sy’n gwneud teithiau hanfodol gyda ni a’n bod yn eu cadw nhw a’n cydweithwyr yn ddiogel.
“Bydd yr amserlen ddiwygiedig yn helpu i leihau’r risg i’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr ond mae dal yn golygu ein bod ni’n gallu darparu gwasanaeth da i weithwyr allweddol ac i’r rheini sydd ei angen ar gyfer teithiau hanfodol.
“Fel pob rhan o gymdeithas, rydyn ni wedi cael ein taro gan Covid-19 ac rydyn ni’n ymwybodol o’r effaith ofnadwy y mae’n gallu ei chael ar ein cydweithwyr a’u teuluoedd, felly rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i atal y feirws rhag lledaenu.
“Os yw eich taith yn hanfodol, gwnewch yn siŵr bod manylion eich taith yn gywir ymlaen llaw ac ar y diwrnod ei hun. Ac i’n holl gwsmeriaid sy’n aros gartref ar hyn o bryd, diolch i chi am chwarae eich rhan.”
Yn ogystal â’r gostyngiad mewn gwasanaethau, mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau â’i drefn glanhau drylwyr mewn gorsafoedd ac ar drenau. Rhaid i gwsmeriaid sy’n dal i deithio ddilyn ein canllawiau Teithio’n Saffach a gwisgo gorchudd wyneb oni bai eu bod wedi’u heithrio.