Skip to main content

Transport for Wales to replace important rail crossing for community

17 Medi 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd pont droed dros dro yn cael ei gosod yn Llanbradach i gymryd lle pont a gafodd ei dymchwel.

Cafodd pont droed wreiddiol Ty’n-y-Graig ei dymchwel yn ddiogel ym mis Mai ar ôl iddi gael ei difrodi’n ddifrifol pan gafodd ei tharo gan gerbyd ar y ffordd, ac mae TrC wedi addo adeiladu croesfan barhaol yn ei lle.

Tra bydd y groesfan hon yn cael ei hadeiladu, bydd pont dros dro yn cael ei gosod er mwyn darparu man croesi diogel ar gyfer y gymuned leol. Bwriedir iddi fod yn ei lle erbyn Nadolig 2020 - ar yr amod y bydd cyfyngiadau lleol COVID-19 yn cael eu codi - ac mae’n debygol o fod yno am 12-16 mis. Bydd y goleuadau traffig ar gyfer y llwybr dargyfeirio ar hyd Colliery Road yn cael eu tynnu oddi yno unwaith y bydd y bont dros dro newydd yn ei lle.

Dywedodd Alexia Course, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru:

“Rwy’n falch ein bod yn gallu darparu’r cyswllt pwysig hwn i gymuned Llanbradach. Ers i’r bont droed flaenorol gael ei difrodi ym mis Mai, rydyn ni wedi gweithio’n galed i ddod o hyd i ateb i’r groesfan goll; ateb y gallwn ei roi ar waith yn gyflym, gan alluogi pobl i groesi’r rheilffordd yn ddiogel heb orfod ychwanegu at eu siwrnai, tra bydd y bont barhaol yn cael ei hadeiladu.

“Hoffwn ddiolch i’r gymuned am eu hamynedd wrth i ni osod y bont droed newydd. Byddwn yn ceisio rhoi’r diweddaraf i chi am y trefniadau parhaol wrth i’n cynlluniau ar gyfer y gwaith hwn ddatblygu”.

Mae tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru wrth law i ateb unrhyw ymholiadau ynghylch gwaith ar y bont dros dro. Gall trigolion gysylltu drwy https://trc.cymru/cymorth-a-chysylltu/rheilffordd/cysylltu-a-ni neu drwy ffonio 03333 211202. Mae’r llinellau ar agor rhwng 08:00 a 20:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a rhwng 11:00 a 20:00 ar ddydd Sul. 

Llwytho i Lawr