01 Mai 2024
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn paratoi ar gyfer tymor prysur yr haf ar ôl llwyddo i gludo dros 100,000 o gefnogwyr i ddigwyddiadau diweddar yng Nghaerdydd.
Gwelodd y gemau Chwe Gwlad a’r gemau ail-gyfle EWRO 2024 ymchwydd sylweddol yn nifer y teithwyr, gyda 5 digwyddiad mawr yn cael eu cynnal yn llwyddiannus heb unrhyw achosion diogelwch sylweddol.
Gweithredodd TrC gynllun cynhwysfawr ar gyfer trenau a chwsmeriaid, wedi'i lywio gan adborth blaenorol a oedd yn cynnwys gwasanaethau ychwanegol, wedi'u hadnewyddu a'u cryfhau er mwyn ateb y galw.
Dywedodd Georgina Wills, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau Trafnidiaeth Cymru:
"Rydym yn hynod falch o'n timau sydd wedi gweithio'n ddiflino y tu ôl i'r llenni i ddarparu ar gyfer y mewnlifiad o gefnogwyr sy’n mynychu’r digwyddiadau mawr hyn.
"Mae ein gallu i gludo 100,000 o gefnogwyr yn llwyddiannus trwy orsaf Caerdydd Canolog yn dyst i'n hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth dibynadwy ac effeithlon.
"Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, rydym nawr yn edrych ymlaen at dymor prysur yr haf, gyda nifer o ddigwyddiadau mawr ar y gweill, gan ddechrau gyda chyngerdd Bruce Springsteen y penwythnos hwn."
Bydd TrC yn darparu capasiti ychwanegol lle bo'n bosibl ar lwybrau i mewn / allan o Gaerdydd ddydd Sul (5 Mai) ond mae llai o wasanaethau ar ddydd Sul a disgwylir i drenau fod yn brysur iawn, cynghorir cwsmeriaid i adael digon o amser ar gyfer eu teithiau.
Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau prif linell De Cymru ar Sgwâr Canolog a bydd ciwiau ar gyfer gwasanaethau'r Cymoedd yng nghefn yr orsaf. Bydd Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 21:30 heblaw am fynediad hygyrch ac i deithwyr sy'n dymuno teithio i Fae Caerdydd.
Mae trefniadau ar gyfer cryfhau a chyfyngu gwasanaethau ychwanegol ar waith ar y llwybrau canlynol:
Glynebwy, Ynys y Barri, Aberdâr, Treherbert, Merthyr Tudful, Rhymni, Casnewydd, Caerfyrddin a’r Gororau (Henffordd a Chaerloyw).
Er mwyn sicrhau profiad teithio didrafferth a phleserus ar gyfer pob digwyddiad sydd i ddod yr haf hwn, mae TrC yn annog pawb sy’n mynychu digwyddiad i gynllunio eu teithiau ymlaen llaw gan ddefnyddio gwefan neu ap TrC.
Nodiadau i olygyddion
Digwyddiadau sydd i ddod yr haf hwn
- 5 Mai: Bruce Springsteen
- 11 Mehefin: Pink
- 18 Mehefin: Taylor Swift
- 25 Mehefin: Foo Fighters
- 09 Awst Billy Joel
- 17 Awst: Speedway