28 Tach 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) ac Edwards Coaches wedi cymryd cam tuag at adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwyrdd ledled Cymru drwy drosi dau fws diesel presennol yn gerbydau cwbl drydanol.
Gyda treialon ar y gweill, mae'r prosiect ailbweru bysiau yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen wrth adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus mwy cynaliadwy, dibynadwy ac effeithlon ledled Cymru.
Mae ailbweru bysiau yn cynnwys tynnu'r injan diesel a'r system danwydd o fws a'u disodli â system yrru a batri trydan fodern. Drwy ddewis ailbweru yn hytrach na disodli, mae TrC yn ymestyn oes bysiau ac yn lleihau gwastraff, gan wneud y rhaglen yn gyfrifol yn amgylcheddol ac yn economaidd.
Cynhaliwyd y treialon hyn yn wreiddiol heb deithwyr, gan werthuso perfformiad, dibynadwyedd ac effeithlonrwydd. Mae cynlluniau i'r cerbydau ddechrau gwasanaethu ar gyfer treialon i barhau gyda theithwyr o dan amodau gweithredu go iawn.
Dywedodd Connor Young, Rheolwr Prosiect ar gyfer Datgarboneiddio Bysiau yn Trafnidiaeth Cymru: “Mae wedi bod yn wych gweld y bysiau wedi’u hailbweru yn ystod y treial.
"Mae wedi bod yn brosiect hynod bwysig i’n helpu i gyrraedd y nod 2035 a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i’r fflyd bysiau fod yn sero allyriadau.”
Ychwanegodd Simon Ingham o Edwards Coaches: “Rydym yn falch o bartneru â Trafnidiaeth Cymru i adnewyddu ac i brofi bysiau trydan - y cyntaf o'u fath yng Nghymru.
"Mae’r canlyniadau’n galonogol, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi atebion ymarferol, graddadwy sy’n torri allyriadau wrth gynnal gwasanaethau dibynadwy. Mae wedi bod yn gyffrous iawn i’r tîm fod yn rhan o hyn wrth i ni ddathlu 100 mlynedd o fusnes.”
Mae’r cydweithrediad rhwng Trafnidiaeth Cymru ac Edwards Coaches yn tynnu sylw at yr ymrwymiad a rennir i arloesedd a chynaliadwyedd mewn trafnidiaeth yng Nghymru.
Gyda'i gilydd, maen nhw'n helpu i ddarparu teithiau glanach, tawelach a mwy effeithlon, gan gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru am fflyd bysiau hollol sero-allyriadau erbyn 2035.
Nodiadau i olygyddion
Mae dau fws wedi cael eu hail-bweru hyd yn hyn gan wahanol gyflenwyr Magtec ac Equipmake, ac yna eu trosglwyddo i Edwards Coaches yn Llantrisant ar gyfer treialon ffordd.