Skip to main content

Transport for Wales and Alun Griffiths host virtual ‘Bridge to Schools’ events across South Wales

01 Chw 2021

Bydd partneriaeth gyffrous rhwng Trafnidiaeth Cymru ac Alun Griffiths yn ymgysylltu â disgyblion ysgolion Cymru gyda gweithgareddau ym maes Peirianneg, Trafnidiaeth ac Adeiladu. 

Bydd y digwyddiadau ‘Pont i Ysgolion’, a fydd yn cael eu cynnal gan TrC, yn digwydd ar-lein drwy gydol mis Mawrth 2021. Bydd y sesiynau ar gael i ddisgyblion blynyddoedd 6 i 8 ac yn cael eu cynnal yn ardal Metro De Cymru yn gyntaf, a byddant yn cyflwyno pobl ifanc i’r gwahanol sgiliau adeiladu a pheirianneg sydd eu hangen i adeiladu pont.

Mae TrC hefyd yn awyddus i glywed gan ysgolion mewn ardaloedd eraill sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol.

Yn ystod y digwyddiad, bydd Alun Griffiths yn defnyddio rhaglen ‘Pont i Ysgolion’ Sefydliad y Peirianwyr Sifil i roi cyfle i bobl ifanc adeiladu fersiwn bach o Ail Groesfan Hafren.

Gan ddefnyddio model o bont 12m sy’n cael ei chynnal gan geblau, bydd plant yn cael profiad uniongyrchol o adeiladu pontydd, gan wisgo hetiau caled, festiau llachar, menyg a gogls. Ar ôl i’r bont gael ei hadeiladu, bydd pob plentyn yn cael cyfle i gerdded ar ei thraws i brofi eu sgiliau peirianneg.

Cyflwynir y sesiwn adeiladu pontydd gan un o Beirianwyr Alun Griffiths, gyda chefnogaeth Swyddog Cyswllt Cyhoeddus a thîm Ymgysylltu â’r Gymuned Trafnidiaeth Cymru.

Er na fydd hi’n bosibl ymweld ag ysgolion a chynnal y sesiwn yn ei fformat arferol gyda’r disgyblion yn ystod y pandemig, mae TrC wedi addasu’r ddarpariaeth a fydd yn galluogi disgyblion i gymryd rhan dros y we.

Dywedodd Lois Park, Pennaeth Ymgysylltu â Chymunedau a Rhanddeiliaid, Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn gweithio gyda’n Partneriaid Cyflenwi Seilwaith, Alun Griffiths, i ddarparu opsiwn gwahanol i'w rhaglen ‘Pont i Ysgolion Sefydliad y Peirianwyr Sifil’ sydd eisoes yn llwyddiannus. Bydd y digwyddiadau ar-lein cyfranogol hyn ar gael i ddisgyblion ledled De Cymru a gobeithio y bydd niferoedd mawr yn gallu ymuno â ni.

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn tyfu’n gyflym wrth i ni baratoi i gyflawni nifer o brosiectau trafnidiaeth trawsnewidiol ledled Cymru.

“Mae gennym ni lawer o waith i’w wneud er mwyn darparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o ansawdd uchel y mae pobl Cymru yn falch ohono, felly, tra ydyn ni’n adeiladu’r tîm a fydd yn rhan o hyn nawr, rydyn ni hefyd eisiau tanio’r genhedlaeth nesaf i fod yn gyffrous am y cyfleoedd sydd ar gael ym maes peirianneg trafnidiaeth.

“Rydyn ni hefyd eisiau manteisio ar y cyfle i gael mewnbwn gan bobl ifanc ar yr hyn maen nhw eisiau clywed amdano nesaf. Mae ein rhaglen allgymorth addysg wrthi’n cael ei datblygu ar hyn o bryd ac mae’r bartneriaeth newydd hon yn rhoi cyfle i ni ofyn sut y dylai Trafnidiaeth Cymru ymgysylltu, ysbrydoli a gwella ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd Terry Davies, Swyddog Cyswllt Cyhoeddus cwmni Alun Griffiths: “Mae Alun Griffiths Construction yn falch o weithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac mae’r cyfle i siarad â pheirianwyr ifanc a gweithwyr adeiladu’r dyfodol mor bwysig.
“Gyda TrC, byddwn yn dangos i bobl ifanc beth sydd gan beirianneg ac adeiladu i’w gynnig mewn ffordd hwyliog a difyr.”

Gallwch gofrestru eich diddordeb ar gyfer sesiynau yn y dyfodol drwy gysylltu ag engagement@tfw.wales. Oherwydd y cyfyngiadau COVID presennol, bydd digwyddiadau eleni yn cael eu cynnal ar-lein yn unig.

Llwytho i Lawr