12 Maw 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal gweithdy ar-lein i athrawon a Llysgenhadon STEM ym mis Mawrth fel rhan o raglen ymgysylltu â'r gymuned Metro De Cymru.
Mae'r sesiwn yn cael ei chyflwyno mewn cydweithrediad â’r partneriaid a fydd yn cyflenwi'r Metro sef Alun Griffiths, Balfour Beatty a Siemens, a bydd yn tynnu sylw at y cyfleoedd gwaith a fydd ar gael i weithlu'r dyfodol, gan bob sefydliad.
Mae'r sesiwn hon yn un o lawer y mae trefnwyr Gweld Gwyddoniaeth yn eu cynnal ar gyfer Llysgenhadon ac athrawon STEM i roi cipolwg o nifer o sefydliadau, eu gwaith, eu cefndiroedd gyrfaol a gwaith allgymorth helaeth STEM gydag ysgolion a chynulleidfaoedd cyhoeddus.
Mae TrC yn buddsoddi tri chwarter biliwn o bunnoedd i uwchraddio'r rheilffyrdd i Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Rhymni a Threherbert, fel rhan o Fetro De Cymru. Mae nifer o brosiectau Metro wedi cael eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae adeiladu Metro De Cymru yn brosiect uchelgeisiol, gwerth miliynau o bunnoedd, a bydd cynlluniau presennol TrC yn cymryd tua phum mlynedd i'w cwblhau. Mae hyn yn cynnwys gwneud cryn dipyn o waith adeiladu, peirianneg a seilwaith er mwyn uwchraddio'r rhwydwaith rheilffyrdd. Bydd TrC a'i bartneriaid cyflenwi yn trydaneiddio tua 170 km o drac, yn uwchraddio pob gorsaf a signalau, ac yn adeiladu o leiaf bum gorsaf newydd.
Dywedodd Kelsey Barcenilla, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned Trafnidiaeth Cymru: "Mae’r bartneriaeth rhwng Gweld Gwyddoniaeth a'n partneriaid cyflenwi yn ceisio helpu i gyflawni prosiectau a digwyddiadau cydweithredol a fydd yn sefydlu diwylliant cynhwysol o ymgysylltu â'r gymuned a phobl ifanc.
"Bydd rhaglen ymgysylltu â'r gymuned TrC yn helpu pobl i gael mynediad at fentora a phrofiad gwaith, gan gynyddu mynediad i Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), yn y sector rheilffyrdd. Bydd darparu cyfleoedd fel hyn yn y dyfodol agos yn helpu'r economi yng Nghymru i ffynnu a chynyddu'r sgiliau o fewn ein gweithlu.
Dywedodd Lisa Mcateer, Rheolwr Risg, Arweinydd Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chymunedau gyda Balfour Beatty: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r digwyddiad cydweithredol hwn. Mae’n gyfle i weithio gyda'n Partneriaid Cyflawni Prosiect Trawsnewidiol Prif Linellau’r Cymoedd, Trafnidiaeth Cymru a Gweld Gwyddoniaeth. Mae hwn yn gyfle gwych i ni estyn allan ac ymgysylltu â’n cymunedau, a'u hatgoffa o'r gwaith cyffrous rydym yn ei wneud i wella ein seilwaith rheilffyrdd a chysylltu ein cymunedau.
"Mae hefyd yn hanfodol i ddyfodol ein diwydiant ein bod yn denu, hyfforddi a meithrin pobl ifanc dalentog leol i'r amrywiol gyfleoedd a llwybrau gyrfa cyffrous sydd ar gael iddynt yn y diwydiant Rheilffyrdd a thrwy wneud hynny, tyfu a chadw sgiliau hanfodol yng Nghymru. "
Cynhelir y gweithdy ar 15 Mawrth rhwng 16:00 - 17:00.
Mae’r manylion ar gyfer ymuno â sesiwn a sut y gall TrC weithio gyda'ch ysgol neu gymuned yn y dyfodol yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/spotlight-on-stem-connecting-communities-stem-ambassadors-teachers-uk-tickets-142919531165
Nodiadau i olygyddion
Alun Griffiths - https://community.griffiths.co.uk/cy/home/
Balfour Beatty - https://balfourbeatty.com/sustainability/
Siemens - https://new.siemens.com/uk/en/company/education.html