Skip to main content

Transport for Wales and Careers Wales host virtual ‘Roles in Transport’ events

11 Tach 2020

Bydd partneriaeth newydd gyffrous rhwng Trafnidiaeth Cymru a Gyrfa Cymru’n tynnu sylw disgyblion ysgol Cymru at gyfleoedd yn y sector trafnidiaeth.

Bydd y digwyddiadau rhithwir ‘Swyddi ym maes Trafnidiaeth’ yn cael eu cynnal ar-lein gan Gyrfa Cymru ddydd Mercher 18 Tachwedd a dydd Gwener 4 Rhagfyr. Byddant ar gael i ysgolion uwchradd ledled Cymru i roi gwybodaeth i ddisgyblion am y gwahanol gyfleoedd gyrfa sydd ar gael mewn sector fel trafnidiaeth.

Mae’r swyddi a fydd yn cael sylw’n cynnwys prentisiaid peirianneg gan bartner cyflawni Trafnidiaeth Cymru Alun Griffiths, swyddog diogelwch, cynghorydd adnoddau dynol a rheolwr rhanddeiliaid.

Mae tîm Ymgysylltu â Chymunedau newydd Trafnidiaeth Cymru wedi sefydlu’r bartneriaeth i helpu i ddarparu prosiectau cydweithredol a digwyddiadau ymgysylltu ag ieuenctid, gan amlygu’r holl gyfleoedd amrywiol sydd ar gael yn y sector hefyd.

Bydd y digwyddiadau’n rhoi cipolwg ar y bobl sy’n gweithio i Trafnidiaeth Cymru, yn ogystal â’r gwelliannau trafnidiaeth cyffrous sydd ar y gweill yn cynnwys y gwaith ar Metro De Cymru. Byddant yn cynnwys amrywiaeth o fideos yn dangos gwahanol swyddi, yn amrywio o’r rhai ym maes Cysylltiadau Cyhoeddus a Chynaliadwyedd i swyddi rheng flaen fel gyrwyr trên a thocynwyr. Bydd yna sesiwn holi ac ateb ryngweithiol hefyd i ddisgyblion i helpu i lywio rhaglen allgymorth addysgol Trafnidiaeth Cymru.

Meddai Lois Park, Pennaeth Ymgysylltu â Chymunedau a Rhanddeiliaid Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn falch iawn o weithio gyda Gyrfa Cymru i ddarparu’r digwyddiadau ar-lein hyn i ddisgyblion ledled Cymru ac yn gobeithio y bydd llawer yn gallu ymuno â ni; gorau po fwyaf.

“Mae Trafnidiaeth Cymru’n tyfu’n gyflym wrth i ni baratoi i ddarparu nifer o brosiectau trafnidiaeth trawsnewidiol ledled Cymru. Mae gennym lawer o waith i’w wneud er mwyn darparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy, hygyrch o ansawdd uchel y bydd pobl Cymru yn falch ohono, felly tra rydym yn creu’r tîm a fydd yn rhan o hyn nawr, rydym hefyd am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ymddiddori mewn gyrfa ym maes trafnidiaeth a darparu yn y dyfodol.

“Rydym am fanteisio hefyd ar y cyfle i gael barn pobl ifanc ar yr hyn maen nhw am ei glywed nesaf. Rydym wrthi’n datblygu’n rhaglen allgymorth addysg ac mae’r bartneriaeth newydd hon yn rhoi’r cyfle i ni ofyn sut y dylai Trafnidiaeth Cymru ymgysylltu, ysbrydoli a gwella ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Meddai Andrea Jones, Rheolwr Gweithredol a Datblygu Gyrfa Cymru: “Mae Gyrfa Cymru’n edrych ymlaen at ddatblygu’n partneriaeth gyda Trafnidiaeth Cymru.

“Mae Trafnidiaeth Cymru’n gyflogwr mawr, newydd gyda swyddi a chyfleoedd cyffrous ledled Cymru a chredwn y bydd y bartneriaeth yn cefnogi Gyrfa Cymru i helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau gyrfa mwy gwybodus drwy eu hysbysu, eu hysbrydoli a’u hysgogi am eu cyfleoedd gyrfa.”

Mae yna gyfle o hyd i gofrestru’ch ysgol yn https://www.eventbrite.co.uk/e/swyddi-ym-maes-trafnidiaeth-roles-in-transport-tickets-126390624761

Yn sgil cyfyngiadau cyfredol COVID, bydd digwyddiadau eleni’n cael eu cynnal ar-lein yn unig.

Nodiadau i olygyddion


Dyddiadau/amseroedd digwyddiadau:

Ysgolion Saesneg:

18 Tachwedd 10am-11am a 1:30-2:30pm.

Ysgolion Cymraeg:

4 Rhagfyr 10am-11am

Dolen Eventbrite https://www.eventbrite.co.uk/e/swyddi-ym-maes-trafnidiaeth-roles-in-transport-tickets-126390624761

Llwytho i Lawr