11 Ebr 2022
Gall teithwyr sy'n defnyddio gorsaf reilffordd brysuraf Cymru gael torri eu gwallt am ddim ddydd Mercher yma (13 Ebrill) fel rhan o fenter gan elusen iechyd meddwl.
Bydd y Lions Barber Collective, elusen iechyd meddwl a chasgliad rhyngwladol o farbwyr sydd wedi dod ynghyd i helpu i godi ymwybyddiaeth o atal hunanladdiad, yng ngorsaf Caerdydd Canolog ddydd Mercher ac yn agor siop Barbwr dros dro am ddim.
Ar ôl cael eu hyfforddi i adnabod ac ennyn diddordeb pobl mewn sgyrsiau am iechyd meddwl, byddant yn yr orsaf gyda dwy gadair yn y cyntedd rhwng 9am-4pm. Byddan nhw’n cynnig torri gwallt cwsmeriaid a chydweithwyr am ddim tra’n cael sgyrsiau i hybu iechyd meddwl cadarnhaol.
Dywedodd Josh Hopkins, Pennaeth Diogelwch a Chydnerthedd Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn falch iawn o allu cymryd rhan yn y fenter hon gyda'r Lions Barber Collective.
“Gyda miloedd o bobl yn teithio trwy orsaf Caerdydd Canolog pob dydd mae’n lleoliad perffaith i gyrraedd cymaint o bobl â phosib a sbarduno trafodaeth am bwysigrwydd gofalu am eich iechyd meddwl.
“Yn Trafnidiaeth Cymru, diogelwch ein cwsmeriaid a’n cydweithwyr yw ein prif flaenoriaeth ac rydym wedi ymrwymo i weithio’n agos gydag elusennau a sefydliadau iechyd meddwl.”
Sefydlwyd y Lions Barber Collective gan y barbwr a’r siaradwr cyhoeddus enwog Tom Chapman yn 2015. Maent bellach yn arwain ymgyrchoedd ar gyfer ymwybyddiaeth o les meddwl ac atal hunanladdiad, ar ôl i ffrind Tom gyflawni hunanladdiad.
Ers hynny, un o flaenoriaethau Tom yw mynd i'r afael â'r stigma a'r materion sy'n ymwneud â hunanladdiad, ac mae’n credu bod y siop barbwr yn lle gwych, diogel i ddynion siarad.