Skip to main content

TfW rail tickets unlock big discounts at major attractions

28 Gor 2025

Gall teithwyr trên ddefnyddio eu tocynnau Trafnidiaeth Cymru i ddatgloi gostyngiadau mawr yn rhai o atyniadau gorau Cymru a'r gororau yr haf hwn.

Mae cyrchfannau poblogaidd, gan gynnwys Taith Pyllau Glo Cymru, Sŵ Caer, Rheilffordd Cwm Rheidol a’r Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol, yn cynnig mynediad am brisiau gostyngol i ymwelwyr sy'n teithio yno ar y trên.

Mae cyfle hefyd i gael llety rhatach gyda Pembrokeshire Coastal Cottages, sydd wedi ymuno â Trafnidiaeth Cymru i gynnig £50 oddi ar arosiadau pris llawn wrth deithio ar y trên.

Dywedodd Victoria Leyshon, Rheolwr Marchnata Partneriaeth yn Trafnidiaeth Cymru: “Mae ein hymgyrch Diwrnodau Allan yn cynnig arbedion ar amrywiaeth eang o atyniadau gan gynnwys cestyll, amgueddfeydd, bragdai, distyllfeydd a chyrchfannau sy'n addas i deuluoedd fel Plantasia a Sŵ Caer.”

De a Gorllewin Cymru

Taith Pyllau Glo Cymru, Teithiau Bwyd Caerdydd, Teithiau Beicio Caerdydd, Cestyll Cas-gwent a Chaerffili, Plantasia, Penderyn Abertawe a Chastell Cydweli.

Pembrokeshire Coastal Cottages - £50 oddi ar arosiadau pris llawn

Gogledd Cymru

Castell Conwy, Castell Harlech, Castell Cricieth a Phenderyn Llandudno

Canolbarth Cymru

Lakeside Boathouse, Rheilffordd Cwm Rheidol

Y Gororau a Lloegr

Carchar Amwythig, Sŵ Caer, yr Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol, The Beatles Story, Cadeirlan Caer, Teithiau Ysbryd Caer, Bragdy Llwydlo, Castell Llwydlo a theithiau Scranchester.

Am fanylion llawn ar y cynigion ym mhob cyrchfan ewch i Diwrnodau Allan | Trafnidiaeth Cymru

*Rhaid cyflwyno tocyn trên dilys ar y diwrnod i fachu mynediad am bris gostyngol.

Llwytho i Lawr