Skip to main content

Train tickets now on your high street

10 Awst 2023

Bydd pobl sy’n teithio yng ngogledd Cymru a Chilgwri yn ei chael hi’n haws fyth prynu eu tocynnau trên gan fod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag wyth o fusnesau lleol.

Mae cynllun Payzone yn galluogi siopau lleol i werthu tocynnau trên yn ogystal â’u cynnyrch arferol.

Mae’n golygu y gall pobl sy’n dymuno teithio, brynu eu tocynnau ymlaen llaw a thalu gydag arian parod neu gerdyn heb ruthro yn yr orsaf.

Mae’r rhan fwyaf o’r manwerthwyr o fewn taith gerdded 15 munud i orsaf.

Gall cwsmeriaid brynu tocynnau ymlaen llaw neu ar y diwrnod yn y siopau, yn ogystal â thocynnau ar gyfer grŵp bach. Maen nhw hefyd yn gallu cael gostyngiadau gyda’u cardiau rheilffordd yno.

Mae siopau yn Wrecsam, Gwersyllt, Bwcle, Penarlâg, Pont Penarlâg, Shotton, Neston a Upton ymhlith y rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun.

Dywedodd Rheolwr Adwerthu Cymunedol TrC, Charlotte Yarnold, mai pwrpas y cynllun ydy rhoi cymaint o opsiynau â phosibl i gwsmeriaid yn ogystal â chefnogi busnesau lleol.

Dywedodd: “Rydyn ni eisiau rhoi cymaint o ddewis â phosibl i gwsmeriaid wrth brynu eu tocynnau.

“Mae rhai pobl yn gyfforddus yn prynu eu tocynnau trwy ddefnyddio apiau neu beiriannau ond rydyn ni’n gwybod bod yn well gan eraill ryngweithio â phobl.

“Mae ein partneriaeth â Payzone yn golygu y gallwn roi’r dewis i’n cwsmeriaid mewn ardaloedd lle nad oes swyddfa archebu leol o bosibl. Bydd hyn hefyd yn helpu i ddenu ymwelwyr i’r busnesau hynny, sy’n eithriadol o bwysig i ni gan fod y cymunedau wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud.”

Mae pwysigrwydd y bartneriaeth hon hefyd yn cael ei nodi yn y Cynllun ymrwymiad pum pwynt TrC, i wella’r gwasanaeth i gwsmeriaid ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston. Ym mis Mehefin, fe ymrwymodd TrC i wneud cyfres o welliannau yn yr ardal, gan gynnwys sicrhau bod prynu tocynnau mor hawdd â phosibl.

Llwytho i Lawr