03 Tach 2025
Gall teuluoedd teithio'n fforddiadwy ac yn haws diolch i lansiad tocynnau teulu diweddaraf Trafnidiaeth Cymru.
Bydd y tocynnau newydd yn gwella profiad teithio teuluol trwy ganiatáu i hyd at ddau blentyn (dan 16) deithio am ddim gyda phob oedolyn sy'n talu.
Am y tro cyntaf, bydd bwndel o docynnau teulu newydd ar gael yn ddigidol; ar y we a thrwy ddiweddariad 2.0 ap TrC ̶ yn ogystal â thrwy beiriannau tocynnau, swyddfeydd tocynnau, a rheolydd y trên ei hun.
Mae’r manteision allweddol yn cynnwys:
- am y tro cyntaf, bydd teithio am ddim ar gael i blant dan 16 oed unrhyw bryd, gan gynnwys oriau brig
- opsiynau o docynnau digidol a phapur
- dilys ar rwydwaith cyfan TrC; gan gynnwys gwasanaethau a weithredir ar rwydwaith TrC gan CrossCountry, GWR, Avanti West Coast, West Midlands Railway, TransPennine Express, a Northern Railway.
Mae'r arloesi hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i greu prisiau a thocynnau sy'n addas ar gyfer anghenion ein cwsmeriaid, ac yn cefnogi ein strategaeth hygyrchedd barhaus i symleiddio prisiau. Rydym yn cynnig ffordd fwy hyblyg a thryloyw i deuluoedd deithio.
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru: "Rydym yn falch o gyflwyno Tocynnau Teulu fel rhan o'n hymrwymiad i wella profiad cwsmeriaid.
“Mae hwn yn gam mawr at sicrhau bod teithio ar y trên yn fwy hygyrch a chyfleus i deuluoedd ledled Cymru a'r gororau. Gobeithiwn y bydd yn annog mwy o deuluoedd i deithio ar y trên."
I gael rhagor o wybodaeth neu i brynu Tocyn Teulu, ewch i Ap TrC neu https://trc.cymru/.
Nodiadau i olygyddion
- Mae plant o dan 5 oed yn teithio am ddim ar holl wasanaethau National Rail.
- Mae'r tocyn hwn yn berthnasol i blant o dan 16 oed. Am bob oedolyn sy’n talu, gall hyd at ddau o blant deithio am ddim.
- Bwndel yw’r Tocyn Teulu sy’n cyfuno’r oedolion a phlant gydag un trafodiad.
- Nid yw’r Tocyn Teulu ar gael yn Nosbarth Cyntaf.
- Ni ellir defnyddio tocynnau teulu ar y cyd â Thalu Wrth Fynd. Fodd bynnag, gall cwsmeriaid sy'n dymuno defnyddio Talu Wrth Fynd barhau i gasglu tocyn plentyn am ddim o'r swyddfa docynnau neu gan reolydd ar y trên.