06 Hyd 2026
Mae tocynnau ac amserlen ar gyfer gwasanaeth coets newydd Trafnidiaeth Cymru, TaithCymru sy’n cysylltu Gogledd ac De-orllewin Cymru bellach ar gael.
Mi fydd y gwasanaeth yn cael ei weithredu gan Edwards Coaches mewn partneriaeth a Llew Jones, bydd TaithCymru yn rhedeg naw taith ddwyffordd bob dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin gydag un daith hwyr y nos bob dydd yn ymestyn i Orsaf Reilffordd a Phorthladd Caergybi.
Bydd y daith yn cymryd rhwng 4 awr 45 munud a 5 awr, gan arbed hyd at awr o gymharu â dulliau trafnidiaeth gyhoeddus eraill, gan helpu cwsmeriaid i deithio i'r gwaith, addysg, gofal iechyd, i hamddena ac i ymweliad â theulu a ffrindiau.
Mae'r amserlen wedi'i chynllunio i gysylltu â gwasanaethau trên eraill, gwasanaethau TrawsCymru a gwasanaethau bysiau lleol.
Er mwyn annog teithwyr i roi cynnig ar y gwasanaeth coets newydd, mae TrC wedi cyflwyno prisiau hyrwyddo ar gyfer tocynnau unffordd i oedolion, sydd ar gael tan fis Ionawr 2027:
- Bangor i Aberystwyth: £7
- Bangor i Gaerfyrddin: £10
- Caergybi i Fangor: £4
- Caergybi i Gaerfyrddin: £12.50
Am ragor o fanylion ynglyn a prisiau tocynnau ac amserlenni, ewch i TaithCymru | Trafnidiaeth Cymru
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Ranbarthol ac Integreiddio yn Trafnidiaeth Cymru:TrC: “Mae TaithCymru yn ffordd newydd, uniongyrchol i gwsmeriaid deithio ledled Cymru - gydag amseroedd teithio cyflymach, coetsys cyfforddus a thocynnau sydd wedi'u cynllunio i annog pobl i roi cynnig ar y gwasanaeth. P'un a ydych chi'n teithio i'r brifysgol, i'r gwaith, i weld teulu a ffrindiau neu i fwynhau diwrnod allan, gallwch nawr brynu tocyn ymlaen llaw a mwynhau taith symlach gyda llai o newidiadau.”
Mae lle i gadair olwyn ar goetsys TaithCymru a mae modd i deithwyr mwynhau Wi-Fi am ddim, system aerdymheru, mannau gwefru USB, toiledau a lle pwrpasol i fagiau.
Gellir archebu tocyn trwy fynd i TaithCymru | Trafnidiaeth Cymru neu drwy ffonio tîm Cymorth i Gwsmeriaid TaithCymru - 03333 211 202.
Nodwch: Mae modd prynu tocyn ar ffurf cyfnod treigl 14 diwrnod a gellir eu harchebu hyd at 15 munud cyn yr amser gadael, cyn belled â bod tocyn ar gael. Ni ellir prynu tocyn gan y gyrrwr.
Nodiadau i olygyddion
- Bydd gwasanaeth coets TaithCymru yn rhedeg rhwng gorsaf reilffordd Bangor a gorsaf reilffordd Caerfyrddin gan alw yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Prifysgol Aberystwyth, Gorsaf Fysiau Aberystwyth ac Aberaeron.
- Bydd TaithCymru yn lansio ddydd Sul 25 Hydref 2026; bydd tocynnau ar werth am 10:00 ddydd Mawrth 6 Hydref 2026.
- Bydd y gwasanaeth yn rhedeg naw taith ddwyffordd bod dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin, gydag un daith hwyr y nos i Gaergybi.
- Mae prisiau tocyn arbennig ar gael tan ddechrau mis Ionawr 2027, cyn cyflwyno'r strwythur prisiau safonol.
- Gall amserlenni newid; dylai cwsmeriaid wirio'r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.
- Gan fod TaithCymru yn wasanaeth coets pellter hir lle mae disgwyl i deithwyr brynu tocyn ymlaen llaw gan ddefnyddio system docynnau benodol y gwasanaeth. Ni dderbynnir tocynnau bws rhatach ar hyn o bryd.
- Anogir cwsmeriaid sydd â gofynion hygyrchedd neu gymorth i gysylltu â'r tîm cymorth o leiaf 36 awr cyn teithio fel y gellir trafod trefniadau addas. Nid yw pob safle coets yn hygyrch i gadeiriau olwyn, gan gynnwys y safle yn Aberaeron, ac nid yw'r toiledau sydd ar y coetsys yn hygyrch i gadeiriau olwyn chwaith. Gall cŵn cymorth ac anifeiliaid cymorth sydd wedi'i hachredu deithio am ddim.