28 Medi 2023
Mae'r tocyn 1Bws ar gyfer gwasanaethau bysiau ar draws Gogledd Cymru bellach yn cynnig tocyn wythnosol un pris yn ogystal â thocyn dyddiol.
Mae'r tocyn 1Bws yn brosiect ar y cyd rhwng y chwe awdurdod lleol a 27 o weithredwyr bysiau lleol, ac mae'n cynnig cyfle i gwsmeriaid dalu un pris a theithio ar bron i 200 o lwybrau ar draws Gogledd Cymru, gan ddefnyddio technoleg tapio ymlaen / tapio i ffwrdd neu brynu tocyn ar y bws.
Y mis hwn, i ddathlu ‘mis dal y bws', mae TrC a'i bartneriaid wedi ymestyn y cynnig fel y gall cwsmeriaid nawr dalu un pris a theithio am wythnos.
Cost tocyn wythnosol 1Bws yw £28 i oedolion ac £19 i blant a deiliaid tocynnau rhatach. Cost tocyn oedolyn dyddiol yw £6.50, tocyn plentyn (neu berson ifanc gyda Fy Mhas Teithio) yw £4.50 ac mae deiliaid tocynnau bws rhatach yn Lloegr a'r Alban hefyd yn talu £4.50. Mae tocyn teulu dyddiol ar gael am £14.20 yn unig.
Mae tocynnau dyddiol neu wythnosol 1Bws yn galluogi cwsmeriaid i deithio ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam gan ddefnyddio nifer o weithredwyr bysiau.
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr TrC Canolbarth, Gogledd a Chefn Gwlad Cymru: “Yn TrC rydym yn gweithio'n galed i wella ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a hoffem annog pobl i adael eu ceir a dewis defnyddio math o deithio sy'n fwy cynaliadwy.
“Mae prosiect 1Bws yn gydweithrediad rhwng TrC, gweithredwyr bysiau lleol ac awdurdodau lleol ac mae'n rhoi cyfle i gwsmeriaid dalu un pris a defnyddio cymaint o fysiau ag sydd eu hangen arnynt i deithio ledled Gogledd Cymru. Rydym yn gyffrous ynghylch y ffaith ein bod bellach yn cynnig opsiwn tocynnau wythnosol yn ogystal â dyddiol, sy'n darparu gwerth am arian ac yn opsiwn arall rhagorol rhag gorfod defnyddio'r car preifat."
Nodiadau i olygyddion
Mae 1Bws yn ddilys ar bob gwasanaeth bws lleol sy'n gweithredu yng Ngogledd Cymru (siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam) ac eithrio gwasanaeth 28 rhwng yr Wyddgrug a'r Fflint. Hefyd, nid yw'n ddilys ar wasanaethau twristiaeth a weithredir gan fysiau to agored, gwasanaethau bysiau National Express na gwasanaethau parcio a theithio.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i Defnyddiwch y tocyn 1Bws yng Ngogledd Cymru - Trafnidiaeth Cymru (traws.cymru)