20 Maw 2024
Mae'r Tîm Cymorth Apiau yn Trafnidiaeth Cymru sydd naill ai'n fyddar neu'n drwm eu clyw wedi ennill gwobr yn y categori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Gorau yn seremoni wobrwyo Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu Cymru (CIPD).
Mae pedwar o bobl yn y tîm sy'n cefnogi'r adran gyllid yn cynhyrchu archebion prynu, derbyn anfonebau, casglu gwybodaeth am brosiectau, profi systemau ar gyfer uwchraddio a chynhyrchu anfonebau gwerthu hefyd.
Mae'r tîm yn cyfathrebu â'i gilydd gan ddefnyddio iaith arwyddion, Microsoft Teams ac e-bost. Mae TrC wedi sicrhau bod y swyddfa lle mae'r tîm yn gweithio yn hygyrch iawn ac wedi darparu galwr (pager) iddyn nhw, teclyn sy'n eu helpu gyda materion iechyd a diogelwch.
Y llynedd, enillodd y tîm wobr yn y categori Cyfrifoldeb Corfforaethol Gwobrau Cyllid Cymru ac maent bellach wedi ennill gwobr yng ngwobrau CIPD eleni hefyd.
Dywedodd Karlijn Asveld, Uwch Bartner Busnes Cyllid: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu creu tîm cyfan yn TrC sy'n cynnwys pobl sy'n fyddar neu sydd ag anawsterau gyda’u clyw.
“Rydym wedi sicrhau bod y swyddfa lle maen nhw'n gweithio yn addas i'r diben, gan eu galluogi i eistedd gyda'i gilydd fel bod modd iddyn nhw allu cefnogi a chyfathrebu â'i gilydd yn rhwydd.
“Mae'r wythnos hon yn Wythnos Iaith Arwyddion ledled y DU ac mae'n bwysig dathlu llwyddiant y tîm. Mae'n wych ein bod wedi ennill y wobr CIPD genedlaethol hon; mae'n rhoi cydnabyddiaeth i'r tîm ac rydym yn gobeithio annog mwy o gyflogwyr i ystyried ffyrdd mwy cynhwysol o weithio."
Ychwanegodd Rhys Hiscock, un o'r tîm sydd ag anawsterau clyw: “Rwyf wedi bod yn gweithio i Trafnidiaeth Cymru ers dwy flynedd. Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o'r Tîm Cymorth Ceisiadau. Mae wedi rhoi lle diogel i mi ac eraill ddatblygu, dysgu sgiliau galwedigaethol a chyflawni ein potensial.
“Mae TrC wedi fy helpu i i fagu fy hyder ac wedi rhoi amgylchedd gwaith i mi lle rwy'n aelod dibynadwy a gweithredol o'r tîm. Gyda chefnogaeth ein rheolwr, rydym i gyd yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu fel tîm a dysgu sgiliau newydd.”
Dywedodd Helen Taylor, sy'n rheoli'r Tîm Cefnogi Apiau: “Rydw i wedi rheoli'r tîm ers dros flwyddyn. Maen nhw'n dal i'm hysbrydoli pob dydd ac wedi fy nysgu am wahanol fathau o gyfathrebu ac yn fy helpu i ddysgu Iaith Arwyddion Prydain.
“Rydym yn cyfathrebu'n bennaf gan ddefnyddio Microsft Teams a thrwy e-byst ac yn y swyddfa rydym yn defnyddio cymorth cyfieithwyr, iaith arwyddion a darllen gwefusau.
“Rwy'n eithriadol o hapus eu bod wedi ennill y wobr hon, yn enwedig gan ein bod ni’n dathlu Wythnos Iaith Arwyddion ledled y DU yr wythnos hon.”