Skip to main content

‘The Great Book of Wales’ – new book to be written from Wales’ trains

31 Hyd 2025

Dros y misoedd nesaf, bydd awdur yn mynd ati i ysgrifennu llyfr newydd sy'n plethu teithio gyda diwylliant, hanes naturiol a hanes dynol ynghyd â chwedloniaeth – archwiliad ddwys o Gymru ar hyd ein rhwydwaith rheilffyrdd.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cyd-weithio â Jon Gower, cyn-ohebydd celfyddydau a chyfryngau gyda’r BBC, i gyflawni'r prosiect newydd cyffrous hwn. Bydd y prosiect yn gweld Jon yn defnyddio rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a rhwydwaith bysiau Cymru i deithio'r wlad ac i adrodd ei stori.

Bydd Jon, sydd wedi ysgrifennu dros 40 o lyfrau, yn gweithio fel ‘awdur preswyl’ i Trafnidiaeth Cymru ac yn dod â'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn fyw drwy straeon a hanesion.

Cyhoeddir ‘The Great Book of Wales’ ddiwedd 2026 gan Sefydliad Cyhoeddi H'mm - sefydliad nid–er-elw sy'n ymroddedig i godi proffil y celfyddydau a diwylliant ym mywydau pobl.

Dywedodd James Williams, Pennaeth Cyfryngau TrC: “Mae adrodd straeon bob amser wedi bod wrth wraidd diwylliant Cymru ac mae gan ein rhwydweithiau rheilffyrdd a bysiau lawer o straeon i'w hadrodd. Mae ein rhwydwaith yn cyrraedd pob cornel ar hyd a lled y wlad a'r Gororau gan gysylltu cymunedau, trefi a phobl.

“Wrth deithio ar ein trenau a'n bysiau newydd, bydd Jon yn archwilio Cymru ac yn plethu straeon diddorol am yr hyn y mae’n ei weld a'r bobl y bydd yn cwrdd â hwy ar hyd y daith.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Jon, hyrwyddo Cymru a'n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, a helpu i ddod a ‘The Great Book of Wales' yn fyw.

Ychwanegodd Jon Gower: "Pleser o'r mwyaf yw gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru yn y dull hwn, yn casglu straeon wrth deithio ar hyd a lled y rhwydwaith, ar drên ac ar fws.

“Mae’r ffaith bod fy nhad Des a'i frawd Derek wedi bod yn gweithio ar y rheilffyrdd yn rhoi cymhwyster ychwanegol i mi ar gyfer y prosiect hwn. Yn blentyn, fe dreuliais lawer o amser yng nghwmni trenau ac yn teithio arnynt.

“Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio yng Nghymru drwy gydol fy mywyd fel oedolyn ac nid yw byth yn fy synnu, pan fyddwch chi'n meddwl eich bod chi'n adnabod y wlad fach hon yn dda, mae rhywbeth newydd i'w ddarganfod rownd pob cornel.'

Dywedodd Ali Anwar, Cyfarwyddwr Sefydliad H'mm:

“Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i weithio mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru a Jon Gower ar y prosiect newydd a chyffrous iawn hwn. Byddwn yn casglu straeon, hanesion a'r mewnwelediadau anhygoel hyn o wlad arbennig iawn ac yn eu cyhoeddi yn ‘The Great Book of Wales'."

Nodiadau i olygyddion


Mae llyfrau diweddaraf Jon Gower yn cynnwys ‘The Turning Tide: A Biography of the Irish Sea’; ‘Raider,’ portread o Raymond Chester, y chwaraewr pêl-droed Americanaidd NFL enwog a ‘Birdland: A Journey Around Britain On the Wing.’

Llwytho i Lawr