16 Gor 2021
Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog cwsmeriaid i gynllunio ymlaen llaw a gwirio cyn teithio gyda rhwydwaith Cymru a'r Gororau y penwythnos hwn gan fod disgwyl y bydd hi'n eithriadol o brysur.
Bydd llwybrau i gyrchfannau arfordirol poblogaidd fel Ynys y Barri a Dinbych-y-pysgod yn arbennig o brysur, a bydd cadw pellter cymdeithasol yn fwyfwy anodd ar wasanaethau prysur.
Bydd systemau ciwio ar waith a bydd timau diogelwch a chymorth ychwanegol mewn gorsafoedd allweddol i helpu i reoli diogelwch teithwyr.
Mae'n debygol hefyd y bydd nifer o newidiadau i'r amserlen, yn enwedig ddydd Sul, felly mae'n hanfodol bod pobl yn gwirio eu taith cyn cychwyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: “A rhagolygon y tywydd yn argoeli ei bod hi'n mynd i fod yn braf iawn ar ddechrau gwyliau’r haf fel hyn, rydym yn disgwyl i’n gwasanaethau fod yn brysur iawn a dylai pobl ystyried hyn wrth wneud trefniadau i deithio.
“Bob dydd, rydyn ni'n gwneud popeth y gallwn ni i ddarparu cymaint o gapasiti â phosib ar ein trenau, gan sicrhau bod pob cerbyd sydd ar gael mewn gwasanaeth. Bydd gennym hefyd gludiant ffordd atodol ar waith lle bo hynny'n bosibl, er mwyn gallu cynnig opsiynau teithio i gwsmeriaid.
“Yn ogystal â hyn, mae'n hanfodol bod pobl yn cymryd cyfrifoldeb dros eu taith, yn cynllunio ymlaen llaw, yn gwirio'r amserlenni diweddaraf cyn codi allan a defnyddio ein teclyn Gwiriwr Capasiti i weld pa wasanaethau sy'n debygol o fod yn brysur a dilyn ein cyngor teithio mwy diogel bob amser. Mae hyn yn cynnwys gwisgo gorchudd wyneb (oni bai eich bod wedi'ch heithrio), parchu ein cydweithwyr a theithwyr eraill a golchi'ch dwylo'n rheolaidd.”
Gallwch ddefnyddio Gwiriwr Capasiti Trafnidiaeth Cymru trwy fynd i wefan TrC yma.