28 Gor 2022
Cynghorir teithwyr rheilffordd i beidio â theithio oni bai bod eu taith yn hanfodol ar nifer o lwybrau ddydd Sadwrn (30 Gorffennaf) oherwydd gweithredu diwydiannol.
Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o weithredu diwydiannol dydd Sadwrn gan aelodau o undeb y gyrwyr trenau ASLEF, ond mae rhai o’i wasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen gyfyngedig iawn a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill.
Disgwylir i wasanaethau TrC ar Brif Linell De Cymru rhwng Abertawe a Chasnewydd fod yn brysur iawn oherwydd nad yw Great Western Railway (GWR) yn rhedeg unrhyw un o'i wasanaethau rhwng Caerdydd ac Abertawe, a gwasanaeth cyfyngedig iawn rhwng Caerdydd a Chasnewydd ddydd Sadwrn. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaethau ychwanegol ar hyd y llwybr hwn er mwyn creu mwy o le.
Bydd gwasanaethau rhwng Amwythig a Birmingham, lle mae Gemau'r Gymanwlad 2022 yn cael eu cynnal, hefyd yn arbennig o brysur gan na fydd West Midlands Railway yn rhedeg unrhyw un o'i wasanaethau ychwaith ddydd Sadwrn.
Mae TrC yn cynghori cwsmeriaid i beidio â theithio oni bai bod eu taith yn hanfodol rhwng:
- Abertawe a Chasnewydd
- Amwythig a Birmingham.
Bydd staff ychwanegol ar gael yn ein gorsafoedd i helpu cwsmeriaid.
Cynghorir pob cwsmer yn gryf i wirio'r wybodaeth deithio ddiweddaraf ar wefan TrC, ap ffon neu ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn teithio.
Nodiadau i olygyddion
Teithio i'r Eisteddfod
- Gweithredu diwydiannol ar 30 Gorffennaf (diwrnod cyntaf yr Eisteddfod) – nid yw Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â gweithredu diwydiannol ddydd Sadwrn ond mae’n debygol y bydd cwmnïau trenau eraill ar streic a fydd yn effeithio ar wasanaethau.
- Disgwylir y bydd gwasanaethau bws TrawsCymru i Aberystwyth yn gweithredu fel arfer (T1, T1C, T2, T5).
Dolenni defnyddiol:
Tudalen crynodeb gwybodaeth i deithwyr TrC: Gweithredu Diwydiannol | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)
Datganiad i'r wasg diweddaraf am WD/cyngor teithio: https://newyddion.trc.cymru/newyddion
Teithio i'r Eisteddfod: https://eisteddfod.cymru/2022-cyrraedd-y-maes