22 Maw 2020
O ddydd Llun 23 Mawrth, bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu teithio am ddim i holl weithwyr y GIG yn ôl ac ymlaen i’w gwaith tan 31 Mai ar dangos eu cerdyn staff GIG.
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: “Ein prif ffocws yw cadw ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid yn ddiogel, a chadw gweithwyr allweddol i deithio i’w gwaith.
“O ddydd Llun 23 Mawrth, bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu teithio am ddim i holl weithwyr y GIG yn ôl ac ymlaen i’w gwaith tan 31 Mai ar dangos eu cerdyn staff GIG.
“Rydym yn atgoffa gweithwyr allweddol y bydd amserlen lai yn gweithredu hefyd ledled rhwydwaith rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru gan ddechrau ddydd Llun 23ain Mawrth nes bydd rhybudd pellach.
“Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw gwasanaethau hanfodol i redeg, fel bod staff y gwasanaethau brys sy'n defnyddio ein trenau a'n gweithwyr allweddol yn cael teithio'n ddiogel ac yn hyderus.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma: https://trc.cymru/gwybodaeth/teithwyr/teithion-saffach.