17 Rhag 2018
I gydnabod eu hymdrechion anhygoel drwy gydol y flwyddyn, bydd Trafnidiaeth Cymru’n gadael i holl bersonél y gwasanaethau brys deithio am ddim dros gyfnod yr ŵyl.
Rhwng 14 Rhagfyr a 04 Ionawr, ni fydd holl aelodau’r heddlu, y gwasanaeth tân, y gwasanaeth ambiwlans a gwylwyr y glannau mewn iwnifform yn gorfod talu am deithio tra maent ar ddyletswydd neu wrth deithio i ac o’r gwaith.
Mae’r cam hwn yn cael ei gymryd wrth i’r gweithredwr newydd, Trafnidiaeth Cymru, ddathlu ei Nadolig cyntaf yn gweithredu’r gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr Profiad y Cwsmeriaid ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea: "Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor anodd yw gwaith personél y gwasanaethau brys wrth iddyn nhw geisio ein cadw ni’n ddiogel.
"Yn genedlaethol, mae’r heddlu’n gallu teithio ar drenau am ddim ar hyn o bryd tra maen nhw ar ddyletswydd, ac roedden ni’n teimlo y bydden ni’n hoffi ymestyn hyn i gynnwys holl ganghennau’r gwasanaethau brys.
"Felly, ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, mae’n bleser cynnig teithio am ddim iddyn nhw i gyd ar ein gwasanaethau ni, i’w gwneud ychydig yn haws iddyn nhw symud o gwmpas, ac i gydnabod eu gwaith rhagorol. Byddwn yn ystyried yn ofalus sut bydd hyn yn gweithio gan feddwl am beth arall fydd yn bosibl efallai yn y dyfodol."
Eisoes mae pob aelod o’r heddlu ar ddyletswydd, gan gynnwys Heddlu Trafnidiaeth Prydain, yn gallu teithio am ddim yn eu hiwnifform. Mae’r trefniant yn un cenedlaethol sydd wedi’i sefydlu ers peth amser.