31 Hyd 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig teithio am ddim ar wasanaethau rheilffordd a pob wasanaeth bws TrawsCymru i bersonél milwrol yn ystod cyfnod y Cofio eleni.
Fel rhan o fenter yr holl ddiwydiant, mae'r cynnig teithio am ddim ar gyfer personél milwrol presennol yn ogystal â chyn-filwyr.
Bydd gan unigolion cymwys hawl i deithio am ddim ar holl wasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Gwener 7 Tachwedd 2025 – Ar gyfer teithio i ac o orsaf Caerdydd Canolog yn unig er mwyn mynychu Gwasanaeth Cofio TrC
- Dydd Sul 9 Tachwedd 2025 – Sul y Cofio
- Dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025 – Diwrnod y Cadoediad
Bydd y cynnig hefyd ar gael ar pob wasanaeth bws TrawsCymru ar Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad.
Darparir teithio am ddim i aelodau sy'n gwasanaethu'r Lluoedd Arfog mewn gwisg filwrol a phersonél presennol a chyn-filwyr nad ydynt mewn gwisg a all gyflwyno un o'r canlynol:
- Cerdyn adnabod dilys MOD90 y Weinyddiaeth Amddiffyn
- Cerdyn Rheilffordd Cyn-filwyr, cerdyn Oyster Cyn-filwyr, Cerdyn adnabod y Weinyddiaeth Amddiffyn i Gyn-filwyr
- Dogfennau eraill sy'n cadarnhau statws cyn-filwr (e.e. pensiwn)
Eleni eto, mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o anrhydeddu aberth y rhai sydd wedi gwasanaethu ein gwlad.
Nodiadau i olygyddion
Mae'r rhestr lawn o wasanaethau'n cynnwys:
T1 (T1A, T1X, T1C), T2/T28, T3/T3C, T4, T5, T6, T7, T8, T10, T11, T22 and T51