06 Tach 2024
Gall personel milwrol a chyn-filwyr deithio am ddim ar wasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru a rhai gwasanaethau bws TrawsCymru i fynychu digwyddiadau Dydd y Cofio ddydd Sul yma (10 Tachwedd).
Fel rhan o fenter ledled y diwydiant, mae'r cynnig o deithio am ddim yn agored i bersonél milwrol sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a chyn-filwyr.
Caniateir teithio am ddim i bersonél sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ar hyn o bryd ac sy’n gwisgo lifrai, neu i bersonél milwrol sy’n gwasanaethu a chyn-filwyr os ydynt yn dangos y canlynol:
- Cerdyn Adnabod Amddiffyn presennol Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn;
- Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr, Cerdyn Oyster i Gyn-filwyr, cerdyn adnabod Cyn-filwyr a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn neu fath arall o brawf adnabod sy'n dangos bod y cwsmer yn gyn-filwr (e.e prawf pensiwn).
Yn 2023, cyflwynwyd Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn i TrC gan Lywodraeth y DU am gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: Mae TrC yn hapus iawn ei fod wedi cael ei gyflwyno gyda Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.
Nodiadau i olygyddion
Ond gwasanaethau TrawsCymru sy'n cael ei gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru sy'n cael ei chynnwys yn y cynnig teithio am ddim, rhain yw'r T1, T1C, T2, T3, T6 a T10