Skip to main content

Free bus travel for Hywel Dda UHB staff this March

28 Chw 2024

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gynnig teithio am ddim ar fysiau i staff y bwrdd iechyd, fel rhan o gynllun peilot newydd i annog gweithwyr i deithio’n fwy cynaliadwy ac i helpu i leihau’r pwysau ar y meysydd parcio.

Mae’r cynllun peilot hwn sy’n para mis yn dechrau ddydd Gwener 1 Mawrth, ac mae’n golygu y bydd staff BIP Hywel Dda yn gallu dal gwasanaeth T1 TrawsCymru, a weithredir gan First Cymru, sy’n rhedeg rhwng canol trefi Caerfyrddin ac Aberystwyth heibio Ysbyty Glangwili, yn rhad ac am ddim drwy ddangos eu bathodyn staff â’u llun arno i’r gyrrwr.

Ar ben hynny, bydd staff yn gallu teithio am ddim ar wasanaethau T2 a T28 TrawsCymru rhwng canol tref Aberystwyth ac Ysbyty Bronglais am ddim drwy ddangos eu bathodyn staff â’u llun arno i’r gyrrwr.

Bydd staff BIP Hywel Dda yn gallu defnyddio’r gwasanaethau hyn, saith niwrnod yr wythnos ym mis Mawrth ar gyfer gwaith a theithiau hamdden – bydd hyn yn golygu bod gweithwyr yn gallu arbed costau tanwydd ychwanegol teithio yn y car.

Daw’r cynllun peilot wrth i’r gwasanaeth T1 baratoi i ddathlu blwyddyn ers cyflwyno fflyd newydd o fysiau trydan ar y llwybr.

Gyda goleuadau darllen, byrddau, pwyntiau gwefru di-wifr a socedi USB, breichiau seddi, sgriniau gwybodaeth a system puro aer, mae’r fflyd newydd wedi bod yn boblogaidd gyda chwsmeriaid ac mae nifer y teithwyr yn parhau i gynyddu.

Mae pob bws T1 sy’n rhedeg rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn osgoi 3kg o CO2 fesul taith ddwyffordd, sy’n cyfateb i dros 12,700 o baneidiau o de.

Bydd TrC a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn monitro cynnydd y cynllun peilot ddydd Llun 18 Mawrth cyn cynnal adolygiad llawn ar ôl iddo gael ei gwblhau.

Dywedodd Mark Jacobs, Rheolwr Contractau a Pherfformiad TrawsCymru: “Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda drwy ddarparu teithio am ddim i staff yr ysbyty ym mis Mawrth.

“Mae hon yn enghraifft wych o drafnidiaeth gyhoeddus yn darparu newid ystyrlon o ran cefnogi uchelgeisiau’r bwrdd iechyd i leihau tagfeydd yn ei feysydd parcio ac annog ei staff i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy drwy roi cynnig ar deithio ar fws.

“Hoffwn ddiolch i’n gweithredwyr yn First Cymru a Lloyds Coaches am eu cefnogaeth i’r cynllun peilot hwn ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r bwrdd iechyd i adolygu’r canlyniadau ac ystyried rhagor o gyfleoedd i gynnal cynlluniau peilot tebyg ar wasanaethau TrawsCymru mewn rhannau eraill o Gymru.”

Dywedodd Gareth Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi ein staff i gael mynediad at ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy.

“Hoffem ddiolch i Trafnidiaeth Cymru am y cynnig hwn a’i ymestyn i wasanaethau T2 a T28 cyn belled ag Ysbyty Bronglais yn dilyn ymateb brwdfrydig gan ein staff.

“Rydyn ni’n gwybod efallai nad yw hyn yn opsiwn i bawb, ond gall dewis dulliau trafnidiaeth cynaliadwy, hyd yn oed unwaith neu ddwywaith yr wythnos, gael effaith sylweddol ar ôl troed carbon unigolyn, arbed arian a helpu i leddfu pwysau parcio ar safleoedd ysbyty prysur.

“Mae’r adborth gan staff sy’n bwriadu manteisio ar y cymhelliant hwn i deithio am ddim wedi bod yn gadarnhaol iawn ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o staff yn cael eu hannog i ddefnyddio’r gwasanaethau bysiau hyn i deithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith yn ystod mis Mawrth.”