19 Awst 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig cyfle i gwsmeriaid deithio ar wasanaethau rheilffordd Talu Wrth Fynd (PAYG), am gyfnod cyfyngedig yn unig, am ddim ond £1.
Yn rhedeg o 19eg Awst tan 28ain Awst, mae'r cynnig unigryw hwn o dapio i mewn a thapio allan ar gael ar draws y 95 gorsaf sy'n galluogi Talu wrth Fynd yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae hyn yn cynnwys holl linellau'r Cymoedd a llwybrau i Ben-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Bro Morgannwg, Y Fenni, a Chas-gwent.
Mae'r cynnig £1 hwn am daith unffordd ar gael i deithwyr sy'n defnyddio Talu wrth Fynd yn unig, ac nid yw'n cynnwys unrhyw fathau eraill o docynnau.
Gallai'r cynnig untro olygu bod teithwyr yn derbyn gostyngiad uchaf o £3.20 ar daith unffordd, gan atgyfnerthu ymhellach y ffaith mai Talu wrth Fynd yw'r ffordd rataf o deithio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn ardal y Metro.
Trafnidiaeth Cymru oedd y gweithredwr trên cyntaf y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr i gyflwyno'r system dalu hon y llynedd ac mae wedi dod yn gynnyrch sy'n gwerthu gyflymaf iddynt.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
“Mae llawer o gwsmeriaid ledled De-ddwyrain Cymru eisoes yn elwa o’r prisiau tocynnau cyflymaf, hawsaf a rhataf drwy wasanaeth Talu Wrth Fynd Trafnidiaeth Cymru. Mae’r tocyn £1 hwn, sydd ar gael am gyfnod cyfyngedig, yn rhoi cyfle gwych i’r teithwyr hynny nad ydynt yn defnyddio’r gwasanaeth roi cynnig arni, gyda llawer o deithiau'n cael eu gwneud ar drenau newydd o ganlyniad i’n buddsoddiad o £800m.
“Ac wrth gwrs, wrth i'r dull Talu wrth Fynd gael ei gyflwyno ar draws Gogledd Cymru cyn bo hir, bydd mwy a mwy o bobl yn cael y cyfle i elwa o brisiau tocynnau rhatach.”
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol TrC:
“Mae ein gwasanaeth Talu Wrth Fynd (PAYG) yn cynnig y ffordd gyflymaf, hawsaf a rhataf i’n cwsmeriaid deithio ar ein rhwydwaith, gyda’r hyblygrwydd ychwanegol o allu tapio i mewn a thapio allan.”
“Ers ei lansio y llynedd, Talu Wrth Fynd yw ein cynnyrch tocynnau sy’n gwerthu gyflymaf. Drwy’r ymgyrch haf unigryw hon, sydd ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig, rydym yn cynnig cyfle i gwsmeriaid deithio rhwng unrhyw un o’n gorsafoedd sy’n galluogi Talu Wrth Fynd am £1 yn unig am daith unffordd.”
“Gobeithiwn y bydd y cynnig hwn yn annog cwsmeriaid presennol a newydd i roi cynnig ar ddull Talu wrth Fynd, teithio ar ein gwasanaethau drwy’r dulliau rhataf posibl ac ysbrydoli hyder i ddefnyddio’r dechnoleg yn fwy rheolaidd.”
“Er bod y dull tocynnau hwn ar gael yn Ne Cymru yn unig ar hyn o bryd, rydym yn gyffrous i fod yn ymchwilio i sut y gallwn ei gyflwyno ledled Gogledd Cymru fel rhan o brosiect Rhwydwaith Gogledd Cymru.”
Nodiadau i olygyddion
Mae cynnig teithio Talu Wrth Fynd (PAYG) £1 ar gael ym mhob un o'n 95 o orsafoedd sy'n galluogi Talu wrth Fynd rhwng 19eg a 28ain Awst, hyd yn oed ar benwythnosau a Gwyliau Banc.
· Mae map llawn o'r gorsafoedd hyn ar gael drwy fynd i: trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/rheilffordd/mathau-o-docynnau/talu-wrth-fynd
· Dim ond ar deithiau unffordd Talu wrth Fynd y mae pris y cynnig ar gael ac ni ellir ei ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw ostyngiadau, cardiau rheilffordd na mathau eraill o docynnau (gan gynnwys dosbarth cyntaf).
· Yn ystod y cyfnod hyrwyddo, ni fydd capiau prisiau dyddiol ac wythnosol yn newid.
· Gweler y tabl isod am enghraifft o'r arbedion tocyn unffordd y bydd cwsmeriaid yn eu derbyn fel rhan o'r cynnig Talu wrth Fynd hwn.
Taith | Pris tocyn unffordd Talu wrth Fynd | Arbediad |
Y Fenni – Caerdydd Canolog | £4.20 | £3.20 |
Pen-y-bont ar Ogwr – Casnewydd (De Cymru) | £3.90 | £2.90 |
Pontypridd – Caerdydd Heol y Frenhines |
£3.30 | £2.30 |
Casnewydd (De Cymru) – Canol Caerdydd |
£2.70 |
£1.70 |
- Pryd bynnag y bo modd, ein nod yw anrhydeddu pob taith Talu Wrth Fynd (PAYG) yn ystod y cyfnod hyrwyddo £1, hyd yn oed os yw teithwyr yn teithio ar wasanaeth bws yn lle trên.
- I deithwyr sy'n teithio rhwng Rhymni a Chaerffili, nodwch fod y rheilffordd ar gau tan 1 Medi, a bod gwasanaethau bws yn lle trên ar waith.
- Bydd ein tîm ar gael yng ngorsaf Caerffili i gynorthwyo teithwyr sy'n defnyddio Talu wrth Fynd. Rhowch wybod i aelod o'n tîm i ble rydych chi'n teithio ac o ble rydych chi'n teithio, a byddan nhw'n sicrhau eich bod chi'n cael eich cofrestru i mewn neu allan ar gyfer eich taith i gael y cynnig £1, hyd yn oed os ydych chi'n teithio ar wasanaeth bws yn lle trên.
- Os ydych chi'n teithio o Gaerdydd a bod eich taith yn dod i ben yng Nghaerffili, tapiwch allan gan ddefnyddio'r dilysydd yng ngorsaf Caerffili.
- Mae gwaith peirianneg wedi'i gynllunio hefyd rhwng Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr ar gyfer y 23ain a'r 24ain o Awst. Disgwylir i'r gwaith hwn ddigwydd o hanner nos ar y 23ain tan tua 5:40am ar y 24ain. Bydd gwasanaethau bws yn lle trên ar waith yn ystod y cyfnod hwn a byddant yn cyd-fynd â'r amserlen arferol ar gyfer y dyddiau hyn.
- Os ydych chi'n bwriadu teithio i Ben-y-bont ar Ogwr neu oddi yno yn ystod y cyfnod gwaith, rydym yn eich cynghori'n gryf i dapio i mewn neu allan yn yr orsaf yn unol â hynny, cyn dechrau unrhyw deithiau ymlaen gan ddefnyddio gwasanaethau bws yn lle trên.