Skip to main content

Technology helps TfW and Network Rail prepare for autumn challenges

13 Hyd 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf yr hydref hwn i baratoi ar gyfer y nifer cynyddol o stormydd a thywydd gwael a achosir gan y newid yn yr hinsawdd.

Yn draddodiadol, mae'r hydref yn gyfnod heriol iawn i'r diwydiant rheilffyrdd ac yn 2020 fe achosodd stormydd Ellen, Francis ac Alex broblemau mawr gan gynnwys y diwrnod gwlypaf a gofnodwyd er 1891.

Gall stormydd gael effaith ddifrifol ar wasanaethau teithwyr rheilffyrdd a thrafnidiaeth ffordd amgen, felly mae TrC a NR wedi bod yn gweithio ar y cyd i baratoi ar gyfer yr heriau a lleihau'r risg i wasanaethau.

Dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd: “Mae Newid Hinsawdd yn cael effaith wirioneddol iawn ar y tywydd fel rydyn ni wedi’i weld gyda stormydd heb eu tebyg o’r blaen yr ychydig flynyddoedd diwethaf, felly rwy’n falch bod TrC, ar y cyd a Network Rail, yn cymryd y mesurau hyn, gan ddefnyddio’r dechnoleg fwyaf diweddar, i ymdrin ag effaith tywydd garw ar ein rhwydwaith reilffyrdd wrth inni baratoi ar gyfer misoedd yr hydref.”

Dyma rai o'r camau sy’n cael eu cymryd:

  • Nodi safleoedd risg uchel gan ddefnyddio lluniau Adolygiad Gwybodaeth Fideo Awtomatig (AIVR) ar du blaen trenau a chreu cynlluniau dad-lystyfiant cadarn ar gyfer pob ardal.
  • Sefydlu desg reoli bwrpasol ar gyfer yr hydref gan ddyblu’r adnodd oedd ar gael yn hydref 2020 a mwy o dimau ymateb rheng flaen yn gweithio bob dydd i nodi ac ymateb yn gyflym i broblemau.
  • Defnyddio trenau triniaeth i gael gwared ar lystyfiant oddi ar draciau a gosod gel mewn safleoedd lle gall llystyfiant achosi lefelau isel o ffrithiant olwynion. Eleni, byddwn yn defnyddio 57 o Beiriannau gosod gel.
  • Cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw darfu ar y gwasanaethau pe bai gostyngiad mewn argaeledd cerbydau trên.
  • Tynnu 'Pacers' dosbarth 142 a 143 o wasanaeth, sef y cerbydau mwyaf agored yn fflyd TrC i faterion yn ymwneud ag adlyniad.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, Colin Lea: “Mae tymor yr hydref yn cyflwyno heriau sylweddol i’r diwydiant rheilffyrdd, ac rydym yn gweithio’n galed trwy gydol y flwyddyn yn paratoi.

“Gan weithio o fewn canllawiau COVID ac yn agos gyda chydweithwyr cynnal a chadw Network Rail a chledrau'r cymoedd, rydym wedi clirio llystyfiant ar ochr y llinell, wedi trefnu rhedeg trenau triniaeth ar hyd y rheilffordd ac wedi cael gwared ar yr hen drenau 'Pacer', sef y trenau oedd y mwyaf agored i niwed o ran materion yn ymwneud ag adlyniad yr adeg hon o'r flwyddyn.

“Bydd ein staff yn parhau i weithio bob awr dros gyfnod yr hydref, a thu hwnt, mewn rhai amgylcheddau profi gwirioneddol i gadw ein cwsmeriaid i symud, a rhoi diogelwch wrth wraidd popeth a wnawn.”

Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail Cymru a’r Gororau: “Mae paratoi ar gyfer yr Hydref wrth wraidd ein partneriaeth gyda Thrafnidiaeth Cymru.

“Rydym yn awyddus i gydweithio trwy gydol y flwyddyn, yn rheoli llystyfiant mewn ardaloedd sy’n risg uchel a defnyddio technoleg arloesol i drin y traciau.  Eleni, rydym wedi dyblu maint y Tîm fydd gennym yn rheoli’r Hydref er mwyn gwella ein gallu i ymateb i ddigwyddiadau.

“A newid yn yr hinsawdd yn gynyddol effeithio ar ein rhwydwaith drafnidiaeth, o Ddyffryn Conwy i Fôr Hafren, rydym yn buddsoddi mewn cynlluniau ledled Cymru a’r Gororau i adeiladu rheilffordd fwy cydnerth.”

Llwytho i Lawr