Skip to main content

New technology set to transform railway performance on Transport for Wales network

16 Maw 2020

SYSTEM fideo arloesol a fydd yn gwella perfformiad yn aruthrol ar y rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth gyda One Big Circle Ltd i osod camerâu clyfar ar drenau i recordio, dadansoddi a rhoi gwybod yn awtomatig am risgiau llystyfiant ar lwybrau Cymru a’r Gororau..

Hwn fydd y tro cyntaf i dechnoleg gael ei defnyddio fel hyn yn y diwydiant rheilffordd.

Mae’r system Adolygiad Fideo Clyfar Awtomataidd (AIVR) yn ddyfais ysgafn a osodir y tu mewn i ffenestr flaen cab y trên ac mae’n casglu data fideo a thelemetreg o fath arall yn awtomatig wrth i’r trên deithio ar y rhwydwaith. 

Y bwriad yw mesur newidiadau yn y seilwaith bob tro mae trên yn mynd ar hyd y llwybr, ac am fod llystyfiant yn newid yn naturiol gellir cadw llygaid arno drwy fap gwres rhybudd cynnar a ddefnyddir i ddyrannu adnoddau.  Fel hyn, gall dail sydd wedi disgyn, signalau a thwf gormodol gael eu rheoli’n rhagweithiol, heb fod angen rhoi pobl ar y cledrau.  Mewn tywydd gwael, petai coeden wedi’i difrodi gan wyntoedd eithriadol o gryf a’i bod yn goleddfu yn fwy na’r arfer tuag at y cledrau neu am atal y gyrrwr rhag gweld y signalau, byddai’r system yn codi hyn ac yn rhoi gwybod i’r tîm rheoli, cyn i hyn ddigwydd.

Mae’r data, fydd yn cael ei gasglu drwy gydol y tymhorau, yn cael ei drosglwyddo ar unwaith drwy 4G, a gellir cael mynediad diogel ato drwy’r cwmwl. Gellir edrych ar y fideo ar unwaith a’i rannu â grwpiau a thimau ymateb allweddol yn TrC a’n partneriaid yn Network Rail.

Dywedodd Rick Fisher, Rheolwr Cynllunio Tymhorol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae ein gwasanaethau’n rhedeg dros fwy na 1,000 milltir o gledrau, felly mae’n hanfodol ein bod yn cael gwybod am newidiadau i’r amgylchedd er mwyn cynnal rheilffordd ddiogel a dibynadwy i'n cwsmeriaid.

“Mae’r dechnoleg hon yn gam enfawr ymlaen i ni a bydd yn ein galluogi i weithio’n agos gyda’n partneriaid yn Network Rail i ddelio â heriau wrth iddyn nhw godi.”

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd TrC: “Gwelsom y dechnoleg hon am y tro cyntaf ym mis Medi, ac fe gafodd gymaint o argraff arnom fel ein bod wedi comisiynu treial ar bob llwybr.

“TrC yw’r gweithredwr trên cyntaf yn y DU i ddefnyddio’r system AIVR ar ei lwybrau ac rydym yn falch o fod ar flaen y gad o ran defnyddio’r dechnoleg arloesol hon. Gyda’r cyfrifoldeb dros reoli seilwaith Llinellau Craidd y Cymoedd yn cael ei drosglwyddo i TrC maes o law, rydym wir yn credu y gallai hyn wneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd rydym yn ymateb, a bydd hynny’n arwain at fanteision sylweddol i’n cwsmeriaid.”

Mae One Big Circle yn dîm o beirianyddion meddalwedd a chaledwedd, ac maen nhw’n arbenigo mewn fideo digidol. Wedi’u lleoli yn Sied Beiriannau eiconig Brunel yng ngorsaf Bryste Temple Meads, mae ganddyn nhw fwy na 30 mlynedd o brofiad mewn systemau fideo, gwaith integreiddio a dadansoddi gan weithio gydag ystod o ddiwydiannau. Maen nhw wedi gweithio’n helaeth ym maes chwaraeon ac wedi galluogi ail-ddangos fideos o ddigwyddiadau chwaraeon yn syth, a hynny ar bob lefel o lawr gwlad i broffesiynol. 

Dywedodd Emily Kent, Cyfarwyddwr One Big Circle:

“Mae’n bleser mawr gennym weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru.  Roedden nhw wedi gweld yn fuan y manteision y gallai AIVR ddod i weithrediadau’r rhwydwaith, ac mae eu ffordd gydweithredol ac agored o weithio yn golygu ein bod ni wedi symud yn gyflym o’r cam treialu i gael AIVR ar y trenau yn ffurfiol.  Mae hyn yn dangos yn glir uchelgais TrC i harneisio technolegau arloesol i helpu i gwrdd â’u heriau, ac rydym wrth ein boddau’n cael cyflwyno’r system fideo arloesol hon yn ogystal ag edrych ar ragor o syniadau gyda nhw”

 

 

 

 

Nodiadau i olygyddion


Nodiadau i Olygyddion:

Roedd OBC wedi arddangos y dechnoleg AIVR yn nigwyddiad y Grŵp Arloesi Rheilffyrdd ym Mryste ym mis Medi 2019.  Yn dilyn hynny, estynnodd TrC wahoddiad i OBC ddod i un o’i Weithgorau er mwyn iddyn nhw gael deall mwy am yr hyn mae’r dechnoleg yn gallu ei wneud.  Cytunwyd ar gyfnod prawf o bedair wythnos, ac yn ystod y cyfnod hwnnw defnyddiwyd dwy uned AIVR ac fe gawsant eu symud o amgylch y rhwydwaith i sicrhau eu bod yn edrych ar bob llwybr.  Y canlyniad oedd map o rwydwaith cyfan TrC ynghyd â lluniau diweddar o’r amgylchedd ar ochrau’r cledrau.

Yn dilyn y cyfnod prawf llwyddiannus, mae TrC ac OBC wedi cytuno ar gontract i ddefnyddio AIVR i gasglu lluniau drwy gydol y tymhorau i adolygu’r llystyfiant ac ymgymryd â chymariaethau tymhorol; bydd modd defnyddio’r data fideo hwnnw i adeiladu model Dysgu Peirianyddol a fydd yn edrych ar gyflwr llystyfiant ac yn tynnu sylw at y mannau sydd angen sylw.  Bydd y data yn cael ei gasglu yn ystod y tymhorau gwahanol er mwyn gallu ymgymryd â chynllunio tymhorol a rheoli llystyfiant, a bydd yn cael ei ddefnyddio ar y cyd â Network Rail.  TrC yw’r cwmni trên cyntaf yn y DU i ddefnyddio’r system AIVR ar ei lwybrau ac mae ar flaen y gad o ran defnyddio’r dechnoleg arloesol hon.

Llwytho i Lawr