25 Awst 2021
Fis Medi, bydd pum busnes newydd arloesol yn cyflwyno eu syniadau ar gyfer heriau allweddol sy'n wynebu Trafnidiaeth Cymru mewn diwrnod arddangos rhithwir.
Mae Lab Trafnidiaeth Cymru, cynllun a ddatblygwyd gan TrC ac Alt Labs, yn gwahodd arloeswyr busnes o bob rhan o ranbarth Cymru a’r Gororau i ddatblygu eu syniadau i wella diogelwch, perfformiad, a phrofiadau cwsmeriaid ar y rheilffordd.
Fe'i cynhelir am 1.30pm ddydd Gwener 3 Medi. Bydd y diwrnod arddangos rhithwir yn rhoi cyfle i fusnesau o bob rhan o Gymru a'r DU arddangos eu syniadau'n uniongyrchol i uwch reolwyr arloesi TrC ac arweinwyr y diwydiant. Bydd y digwyddiad hefyd yn cael ei ffrydio'n fyw ar YouTube.
Mae'n dilyn cyfnod o fentora pwrpasol gan arbenigwyr busnes o bell yng nghyfleuster modern tu hwnt TrC yng Nghasnewydd.
Dywedodd Michael Davies, Rheolwr Mewnwelediad ac Arloesi TrC: “Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae'r cwmnïau hyn wedi datblygu eu syniadau gydag arweiniad TrC ac Alt Labs a'r gwahanol syniadau y maen nhw wedi'u creu.
“Mae angen arloesi ar ein diwydiant a meithrin doniau a syniadau newydd i ddarparu profiad gwell fyth i gwsmeriaid.
“Ar gyfer y grŵp hwn rydym wedi ehangu cwmpas ein chwiliad i ddiwallu rhai o'r meysydd her eraill yr ydym o'r farn sy'n bodoli, gan gynnwys ffyrdd arloesol o fynd i'r afael ag un o'r heriau mwyaf y mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi'u hwynebu yn ddiweddar: sut rydym yn annog pobl i ddewis trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol."
Dyma'r pum cwmni fydd yn cyflwyno eu syniadau i TrC ar Fedi 3:
Jnction – datblygwr Aubin, cynllunydd taith aml-foddol newydd ac ap cynorthwyo teithwyr sy'n ceisio lleihau straen i deithwyr ag awtistiaeth ac anableddau cudd tra’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Quinean – datblygwr platfform dysgu peiriant cod isel sy'n caniatáu i arbenigwyr parth ddefnyddio efeilliaid digidol, profi damcaniaethau a gwneud y gorau o ganlyniadau ar gyflymder.
RoboK - datblygwr datrysiadau gweledigaeth cyfrifiadurol effeithlon wedi'u seilio ar ddeallusrwydd artiffisial (AI) i ddemocrateiddio diogelwch wrth gludo.
Stofl - datblygwr seilwaith ac atebion sy'n cyfuno technolegau Blockchain a Phwer-WAN Isel, gan ganiatáu i beiriannau gyfathrebu a datrys rhai o broblemau mwyaf dybryd y byd yn fwy effeithlon, diogel ac mewn lleoliadau ymhellach i ffwrdd.
Utility AR - gweithio gydag arloeswyr mewn sectorau diwydiannol i ddatgloi potensial cymwysiadau Realiti Estynedig sy'n caniatáu i'r defnyddiwr ryngweithio â'r byd go iawn wrth gyrchu cronfeydd data a systemau meddalwedd presennol.
Bydd yr holl gwmnïau yn dangos fideo fydd yn cyflwyno eu cynhyrchion terfynol a bydd cyfle i ofyn cwestiynau ac i ddysgu mwy hefyd. Bydd y diwrnod arddangos yn ysbrydoli arloesedd o fewn busnesau a bydd yn cynnig mewnwelediad i rai o'r datblygiadau blaengar sy'n cael eu cyflwyno ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
Ychwanegodd Adam Foster o Alt Labs: “Hyd yma, mae pob un o'n carfannau wedi cael eu cynnal o bell, ac er y bydd diwrnod arddangos heddiw o bell hefyd, mae'n wych nad yw’r cyfyngiadau symud mor gaeth ag yr oeddent ac mae rhywfaint o normalrwydd wedi dychwelyd, gan ganiatáu inni ddod â charfanau cychwynnol carfan 3 i'r Lab. A ninnau wedi bod yn gweithio gyda'r busnesau newydd hyn dros y misoedd diwethaf, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn arddangos y datblygiadau maen nhw wedi'u gwneud a'r effaith gadarnhaol maen nhw'n mynd i'w chael ar Drafnidiaeth Cymru.”
Dyma'r drydedd garfan o gwmnïau i Lab Trafnidiaeth Cymru weithio gyda nhw. Yn ystod y ddwy garfan flaenorol, buont yn gweithio gydag 20 o gwmnïau newydd, a llwyddodd 9 ohonynt i fynd ati i weithio ar garlam gyda Trafnidiaeth Cymru.
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i'r Golygydd
Bydd y digwyddiad yn ymdrin â:
- Cyflwyniadau gan fusnesau newydd sy'n arddangos y cynhyrchion y maent wedi'u datblygu yn ystod y rhaglen cyflymydd
- Cyfleoedd i rwydweithio
- Holi ac Ateb
- Mewnwelediadau gan randdeiliaid allweddol TrC
Bydd y digwyddiad yn cynnwys:
- Croeso gan Brif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Alt Labs, Imran Anwar
- Araith Agoriadol gan Drafnidiaeth Cymru
- Cyflwyniadau Cychwynnol
- Prif araith
- Cyflwyniadau Cychwynnol
- Gwobrau
- Cyhoeddi carfan 4 a manylion pellach
Dyddiad: Dydd Gwener 3ydd Medi 13:30
Bydd agenda lawn a’r amserau’n cael eu rhyddhau cyn bo hir.
I gofrestru (am ddim) ewch i: Tocyn Diwrnod Lab Trafnidiaeth Cymru - Carfan 3 ar gyfer Demo Rhithwir, Gwe 3 Medi 2021 am 13:30 | Eventbrite