10 Awst 2022
Cynghorir teithwyr rheilffordd i beidio â theithio oni bai bod eu taith yn hanfodol ar nifer o lwybrau dydd Sadwrn yma (Awst 13) oherwydd gweithredu diwydiannol.
Nid yw Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn rhan o weithredu diwydiannol dydd Sadwrn gan aelodau o undeb y gyrwyr trenau ASLEF, ond mae rhai o’i wasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i’r amserlen gyfyngedig iawn a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill.
Disgwylir i wasanaethau TrC yn Ne Cymru rhwng Caerfyrddin a Chasnewydd fod yn brysur iawn oherwydd nad oes unrhyw wasanaethau Great Western Railway (GWR) yn rhedeg. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaethau ychwanegol ar hyd y llwybr hwn er mwyn creu mwy o le.
Disgwylir i wasanaethau rhwng Caerdydd a Lydney, Amwythig a Wolverhampton* a gwasanaethau ar hyd Arfordir Gogledd Cymru fod yn brysur iawn gan na fydd unrhyw wasanaethau CrossCountry, West Midlands Trains ac West Coast Avanti yn gweithredu o gwbl ddydd Sadwrn 13 Awst.
Mae TrC yn cynghori cwsmeriaid i beidio â theithio oni bai bod eu taith yn hanfodol rhwng:
- Caerfyrddin a Chasnewydd
- Caerdydd a Lydney
- Amwythig a Wolverhampton
- Arfordir Gogledd Cymru
Gall teithio i nifer o ddigwyddiadau a gynhelir ddydd Sadwrn 13 Awst gael ei effeithio gan y gweithredu diwydiannol a chynghorir pob cwsmer yn gryf i wirio am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio ar wefan TrC, ap ffôn neu sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mae hyn yn cynnwys:
- Speedway GP FIM yn Stadiwm Principality (3pm), Caerdydd.
- Welsh Fire v Birmingham Phoenix (3pm) Gerddi Sophia, Caerdydd.
- Tim Pêl-droed Dinas Caerdydd yn erbyn Tim Pêl-droed Dinas Birmingham (12.30pm) yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
- Pete Tong a'r Gerddorfa Symffoni (4pm), Stadiwm Zip World, Bae Colwyn.
Bydd staff ychwanegol ar gael yn ein gorsafoedd i helpu cwsmeriaid.
*Oherwydd y bydd gorsaf Birmingham New Street ar gau ddydd Sadwrn 13 Awst, bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn dechrau/gorffen yn Wolverhampton. Bydd West Midlands Metro yn derbyn tocyn gan deithwyr sydd angen teithio rhwng Birmingham New Street a Wolverhampton.