08 Tach 2024
Bellach, mae'r opsiwn ‘Talu Wrth Fynd’ wedi'i ymestyn i naw gorsaf arall rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd (o ddydd Llun 4 Tachwedd).
Mae 'Talu Wrth Fynd' yn gwneud teithio yn gyflymach, yn haws ac yn rhatach. Lansiodd Trafnidiaeth Cymru y cynllun ym mis Ionawr ar wasanaethau rhwng Caerdydd Canolog, Casnewydd a Phont-y-clun.
Yn dilyn ei lwyddiant ar lein Glynebwy ym mis Mawrth a lein Maesteg ym mis Medi, ehangwyd y cynllun i saith gorsaf arall ym mis Hydref gan gynnwys Cyffordd Twnnel Hafren, Cil-y-coed, Cas-gwent, Cwmbrân, Pont-y-pŵl a New Inn, Y Fenni a'r Pîl.
Mae’r opsiwn teithio rhwyddach bellach wedi cyrraedd Pontypridd, Trefforest, Ystâd Trefforest, Ffynnon Taf, Radur, Llandaf, Cathays, Caerdydd Heol y Frenhines a Bae Caerdydd.
Mae’r ehangu graddol hwn yn dod â chyfanswm o 36 o orsafoedd i mewn i’r cynllun 'Talu Wrth Fynd' gan gadw Trafnidiaeth Cymru ar y trywydd iawn i ehangu’r cynllun i bob un o’r 95 o orsafoedd ar draws Metro De-ddwyrain Cymru cyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae hyn eisoes wedi bod yn llwyddiant ysgubol i’n cwsmeriaid gyda dros 65,000 o deithiau Talu-Wrth-Fynd wedi’u gwneud hyd yma, sy’n golygu mai hon yw’r sianel fanwerthu sy’n tyfu cyflymaf i Trafnidiaeth Cymru.
“Rydym yn gweld y defnydd yn cynyddu yn wythnosol gyda thwf o bobl yn dewis y cyfleustra Talu-Wrth-Fynd ar gyfer eu teithiau.
“Byddwn yn parhau i ehangu'r cynllun drwy gydol y flwyddyn. Mae Talu wrth Fynd yn ei gwneud hi'n haws i gwsmeriaid; mae'n gwella eu profiad ac mae'n denu mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”
I ddarllen ymhellach, ewch i Talu Wrth Fynd | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)