Skip to main content

'Pay As You Go’ extends to Ebbw Vale line

15 Maw 2024

Mae’r opsiwn o ddefnyddio’r system newydd ‘Talu wrth fynd’ drwy dapio i mewn ac allan ar gael ar linell Glynebwy (o ddydd Llun 18 Mawrth ymlaen).

Gan ei gwneud hi’n gyflymach, haws a rhatach i deithio, gwnaeth Trafnidiaeth Cymru lansio’r cynllun peilot y mis diwethaf ar deithiau rhwng Caerdydd Canolog, Casnewydd a Phont-y-clun. 

O ganlyniad i lwyddiant y cynllun peilot, rydym wedi ehangu’r cynllun i linell Glynebwy -  bydd felly 11 gorsaf yn rhan ohono.

Erbyn diwedd 2024, mae TrC yn bwriadu ehangu’r cynllun i’r 95 gorsaf ar draws Metro De-ddwyrain Cymru.

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym yn parhau i wneud cynnydd gyda’n cynllun ‘Talu wrth fynd’ ac rwy’n falch ein bod wedi’i ehangu i’r llinell Glynebwy gan ychwanegu 8 gorsaf at y cynllun.

“Byddwn yn parhau i ehangu’r cynllun drwy gydol y flwyddyn, gan hwyluso’r profiad i gwsmeriaid, gwellau’u profiad o deithio a hyrwyddo’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.”