Skip to main content

TfW Summer Bike Event tour continues

11 Gor 2023

Bydd taith i hyrwyddo beicio yr Haf TrC yn parhau ledled Cymru a'r Gororau yr wythnos hon.

Mewn partneriaeth â Heddlu Trafnidiaeth Prydain, mae TrC yn rhoi cyfle i'r cyhoedd gael marc wedi'i osod ar eu beic er mwyn ei ddiogelu a hynny yn rhad ac am ddim.  Cynhelir y sesiwn nesaf yng Ngorsaf Reilffordd Pontypridd ddydd Mercher 12fed Gorffennaf rhwng 13:00-17:00.

Nod y digwyddiadau hyn yw ysbrydoli pobl i deithio'n fwy cynaliadwy a herio eu hunain i wneud yr addewid i fynd ar feic, boed hynny i gyrraedd y gwaith, i astudio neu i fwynhau taith hamdden leol.

Mae TrC yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i helpu i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan gynnwys darparu cefnogaeth a chyngor i awdurdodau lleol wrth ddatblygu a chyflwyno eu cynlluniau teithio llesol.  Yn ogystal â hyrwyddo rhwydweithiau teithio llesol lleol a mentrau beicio, gall y rheini sy’n dod i’r digwyddiadau beiciau hyn gymryd rhan yn ein harolwg teithio llesol a chael eu cynnwys mewn raffl am ddim i ennill nwyddau sy'n gysylltiedig â beicio.

Dywedodd Matthew Gilbert, Pennaeth Teithio Llesol a Chreu Lleoedd TrC: “Nod ein digwyddiadau beicio dros yr haf yw dangos i bobl y cyfleoedd i feicio fel rhan o deithiau bob dydd.  Rydym hefyd am glywed gennych am sut y gallwn ni – ar y cyd a'n partneriaid – wneud teithio llesol yn ddewis cyntaf i chi ar gyfer teithiau byr yn eich cymunedau.”

Bydd y daith yn parhau trwy gydol yr haf ac mae digwyddiadau wedi’i cynllunio yng ngorsafoedd Casnewydd, yr Amwythig a Bangor.  Byddwn yn cyhoeddi rhagor o ddyddiadau / lleoliadau dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Andy Morgan, Uwcharolygydd o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Os oes marc diogelwch ar eich beic, mae'n ffordd hynod effeithiol ac amlwg o atal eich beic rhag cael ei ddwyn.  O gael eu dal, fe ŵyr y lladron bod marc diogelwch ar y beic a bydd modd dod o hyd i'r perchennog yn gyflym.  Mae hefyd yn sicrhau bod modd ei gwneud yn llawer hawl i ddwyn lladron i gyfrif.

“Rwy'n croesawu'r bartneriaeth werthfawr hon gyda Thrafnidiaeth Cymru a byddwn yn annog cymaint o berchnogion beiciau â phosibl i fanteisio ar y gwasanaeth rhad ac am ddim hwn.”

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Beicio TrC 2023 ewch i:https://dweudeichdweud.trc.cymru/ ac i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gynllunio taith gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar feic ewch i: https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/beicio a Teithio ar feic ar y trên | TrC

Nodiadau i olygyddion


Pleser gan Beicio Cymru yw bod yn bartner i Trafnidiaeth Cymru (TrC) wrth i ni geisio annog pobl Cymru i fwynhau'r awyr iach a defnyddio'r beic i deithio pob dydd yr haf hwn.

Prif ddiben y bartneriaeth yw lansio her teithio llesol newydd ‘Parth Cefnogwyr’ – #AddewidTrC – sy'n golygu, yn syml iawn, eich bod yn mynd ar eich beic ac yn rhannu'ch profiad ar gyfryngau cymdeithasol. 

Nod yr her yw eich annog i adael y car gartref a defnyddio eich beic ar gyfer teithiau ‘pwrpasol‘ pob dydd.  Does dim ots os ydych chi'n beicio i'r gwaith, i’r ysgol, y siopau neu'n mwynhau taith haf i'r parc gyda'ch teulu – beth bynnag fo'r achlysur, mae Beicio Cymru a TrC am weld eich lluniau a'ch fideos er mwyn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. 

Mae cymryd rhan yn syml.  Cliciwch yma ac fe fydd yr holl fanylion yn ymddangos.    Gallech hefyd ennill gwobrau gwych, gan gynnwys set o helmedau Limar i'r teulu cyfan gan Beicio Cymru.

Llwytho i Lawr