Skip to main content

Pay as you go contactless payment system hits two million

27 Tach 2025

Mae nifer y teithiau trên a wneir gan ddefnyddio technoleg Talu Wrth Fynd / Pay As You Go (PAYG) bellach wedi cael ei ddefnyddio dros ddwy filiwn o weithiau ar wasanaethau Metro De Cymru.

Daw'r garreg filltir flwyddyn ar ôl lansio’r system fis Tachwedd 2024, gan gadarnhau ei statws fel dull tocyn trên Trafnidiaeth Cymru sy'n tyfu gyflymaf.

TrC oedd y gweithredwr trenau cyntaf yn y DU y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr i gynnig y dull talu arloesol hwn, ac mae'n parhau i arwain y ffordd.

Mae'r system ar gael ar hyn o bryd mewn 95 o orsafoedd yn rhanbarth Metro De-ddwyrain Cymru, gan gynnig mynediad i gwsmeriaid at brisiau gwerth gwell* a phrisiau a gaiff eu capio yn ddyddiol/wythnosol.

Mae llwyddiant y cynllun hwn yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno tocynnau talu wrth fynd yng Ngogledd Cymru y flwyddyn nesaf (fel rhan o raglen ehangach Rhwydwaith Gogledd Cymru), gan greu manteision tebyg i gymunedau ar draws rhanbarth Gogledd Cymru a'r Gororau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Rwyf wrth fy modd bod mwy a mwy o deithwyr yn dewis talu wrth fynd, gan wneud y gorau o ffordd symlach a thecach o dalu am eu tocynnau trên a bws.

“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu system talu wrth fynd i Ogledd Cymru y flwyddyn nesaf fel y gall llawer mwy o bobl dapio a mynd.”

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru: "Mae'n wych gweld cymaint o gwsmeriaid yn manteisio ar y ffordd gyfleus a syml hon o deithio.

"Pan fyddwn yn siarad am wella profiad y cwsmer, tocynnau ‘tapio ymlaen, tapio i ffwrdd’ yw'r union beth rydyn ni'n ei olygu. Mae'n gwneud teithio ar y trên yn gyflymach, yn decach ac yn fwy hygyrch, sy'n creu boddhad cwsmeriaid a chreu twf i refeniw’r rhwydwaith"

Nodiadau i olygyddion


* Mae TWF/PAYG yn cynnig y gwerth gorau neu'r pris isaf o’i gymharu â’r pris cyfatebol nad yw'n TWF/PAYG

Am fwy o wybodaeth am talu wrth fynd, ewch i: https://trc.cymru/ffyrdd-o-deithio/rheilffordd/mathau-o-docynnau/talu-wrth-fynd 

Llwytho i Lawr