Skip to main content

New Community Rail Officer for the Conwy Valley and North West Wales Coast Line

24 Chw 2023

Mae Claire Williams wedi cael ei phenodi’n Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol newydd ar gyfer Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd-orllewin Cymru.

Fel Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol, bydd Claire yn ymgysylltu â chymunedau ar draws y rhwydwaith o Landudno i Flaenau Ffestiniog a Chyffordd Llandudno i Gaergybi. Bydd y swydd yn cysylltu pobl yng Ngogledd Cymru â’u rheilffyrdd, gan sicrhau manteision cymdeithasol ac economaidd, gan ganolbwyntio ar dwristiaeth gynaliadwy a theithio hygyrch i bobl leol ac ymwelwyr.

Dywedodd Claire Williams, sy’n frwd dros ddechrau’r swydd newydd: “Drwy gysylltu a hybu cydweithrediad rhwng busnesau a sefydliadau mewn cymunedau lleol, gallwn rymuso’r cymunedau hynny i gydweithio’n well ar ystod eang o faterion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda chymunedau ar draws y rhanbarth.

“Rydw i wedi bod yn gweithio yn y gymuned leol ers blynyddoedd lawer, gyda’r Strafagansa yn Llandudno. Rwy’n edrych ymlaen at ddod â’m profiad mewn digwyddiadau, ymgysylltu â’r gymuned a gweithio ar y cyd â sefydliadau allanol i’r swydd.”

Ychwanegodd Philip Evans, cadeirydd y Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol: “Rwy’n falch iawn bod Claire yn ymuno â’r tîm.  Mae ganddi hanes ardderchog o reoli digwyddiadau’n lleol a bydd yn sicr yn adeiladu ar y gwaith a wnaed gan ei rhagflaenwyr.”

Mae Trafnidiaeth Cymru yn ariannu Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Dyffryn Conwy ac Arfordir Gogledd-orllewin Cymru yn rhannol er mwyn cyflawni ei weledigaeth ehangach ar gyfer rheilffyrdd cymunedol.  Mae’r bartneriaeth yn cael ei chynnal gan Creu Menter, menter gymdeithasol sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cymunedau, cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth.

Dywedodd Hugh Evans, Pennaeth Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “Rydw i wrth fy modd yn croesawu Claire i’r teulu Rheilffyrdd Cymunedol. Rydyn ni’n gwybod bod Rheilffyrdd Cymunedol yn gallu sbarduno newid go iawn er gwell ar draws ein rhwydwaith, gan helpu i wneud teithio ar y rheilffyrdd yn fwy hygyrch a chynhwysol, sydd, yn ei dro, yn creu gwir fudd economaidd a chyfle, yn ystod y cyfnod anodd hwn, i gefnogi iechyd a llesiant meddyliol pobl yn y cymunedau hyn.  Mae Claire eisoes wedi cael effaith ar ddigwyddiadau lleol ac ar weithio gyda’r ysgol.”

Nodiadau i olygyddion


Y Prif Swyddog Gweithredol (CRP)

Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol achrededig, a ddyfarnwyd gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru. Mr Philip Evans, Cadeirydd a Haf Jones, Is Gadeirydd.

Mae aelodau ein partneriaeth yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru, Avanti, Network Rail, Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Conwy, Cyngor Gwynedd, cynrychiolwyr Mabwysiadu Gorsafoedd, Creu Menter, Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol a Boots on the Ground.

Mae’r cynllun gweithgarwch busnes yn cael ei gyflwyno gan yr holl aelodau, dan arweiniad y Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol. Nod ein gwasanaeth yw:

  1. rhoi llais i’r gymuned
  2. hyrwyddo teithio cynaliadwy, iach a hygyrch
  3. dod â chymunedau at ei gilydd a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant
  4. cefnogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd

Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn gwasanaethu gorsafoedd Llandudno, Cyffordd Llandudno, Glan Conwy, Tal-y-Cafn, Dolgarrog, Gogledd Llanrwst, Llanrwst, Betws y Coed, Pont-y-pant, Dolwyddelan, Pont Rufeinig a Blaenau Ffestiniog.

Mae Rheilffordd Arfordir Gogledd-orllewin Cymru yn gwasanaethu gorsafoedd Cyffordd Llandudno, Conwy, Penmaenmawr, Llanfairfechan, Bangor, Llanfairpwll, Bodorgan, Tŷ Croes, Rhosneigr, Y Fali, Caergybi.