23 Ion 2025
Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn annog pob cwsmer i wirio cyn teithio fore dydd Gwener ac i mewn i’r penwythnos gyda rhybuddion tywydd mewn grym ledled y wlad.
Gyda Storm Eowyn ar fin taro Cymru, a disgwyl i wyntoedd gyrraedd 90mya fore Gwener, dylai cwsmeriaid ddisgwyl tarfu ac fe’u hanogir yn gryf i wirio cyn teithio.
Bydd newidiadau i wasanaethau rheilffordd, trafnidiaeth ffordd ar lwybrau penodol a chyfyngiadau cyflymder cyffredinol mewn rhai lleoliadau, gan olygu y gallai teithiau gymryd mwy o amser nag arfer.
Cynllunnir bysiau wrth gefn mewn lleoliadau allweddol o amgylch y rhwydwaith os bydd tarfu ychwanegol.
Ledled Cymru a'r Gororau, mae Network Rail wedi gosod timau ymateb i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â stormydd er mwyn achosi cyn lleied o darfu â phosibl.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau TrC, Sarah Higgins: “Mae mor bwysig i'n cwsmeriaid gynllunio ymlaen llaw os ydynt yn bwriadu teithio ddydd Gwener yma.
Rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i'n gwasanaethau yn seiliedig ar ragolygon manwl, ond gwyddom y gall stormydd fod yn anodd eu rhagweld o hyd.
Rydym wedi gweld yr effaith y gall stormydd ei chael, gyda difrod i drenau a seilwaith weithiau'n cymryd wythnosau neu fisoedd i'w atgyweirio, felly gobeithio y bydd ein dull gweithredu traws-ddiwydiannol yn cyfyngu ar hynny ac yn cadw ein cydweithwyr a'n cwsmeriaid yn ddiogel. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra o ganlyniad i hyn ar fore Gwener.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Network Rail Cymru a’r Gororau, Rachel Heath: “Ein blaenoriaeth bob amser yw cadw’n ddiogel pawb sy’n teithio ac yn gweithio ar y rheilffordd.
“Yn anffodus, fe fydd rhywfaint o oedi a chanslo ddydd Gwener, gan na fydd trenau’n rhedeg ar rai llinellau a bydd cyfyngiadau cyflymder ar rannau eraill o’r llwybr.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr gweithredwyr trenau i sicrhau y gallwn ailagor llinellau yr effeithir arnynt yn ddiogel cyn gynted â phosibl ac yn annog teithwyr i wirio cyn iddynt deithio.”
Newidiadau i'r gwasanaeth trên:
- Dim gwasanaethau i redeg ar Linell Dyffryn Conwy drwy'r dydd, gyda gwasanaethau bws yn lle trên ar waith.
- Dim gwasanaethau i redeg ar lein Calon Cymru drwy'r dydd, gyda gwasanaethau bws yn lle trên ar waith.
- Bydd cyfyngiadau cyflymder cyffredinol mewn gwahanol leoliadau o amgylch y rhwydwaith, sy'n golygu y bydd rhai teithiau'n cymryd mwy o amser nag arfer.
- Gosodcyfyngiadaucyflymder 50mya o 0200 i 1500 dyddGwenerarArfordirGogledd Cymru – BodorganiGyffordd Llandudno.
- Cyfyngiadau 50mya o 0200 i 1200 rhwngCaerfyrddin a Chydweli
- Cyfyngiadau 50mya o 0200 i 1200 rhwng Castell-nedd ac Abertawe
- Cyfyngiadau 50mya o 0100 – 0800 rhwngCasnewydd a Llanwern
Cwsmeriaid sydd â thocynnau cyswllt ar gyfer y gweithredwyr canlynol sydd wedi atal gwasanaethau oherwydd y tywydd garw, byddwn yn anrhydeddu tocynnau dyddiedig 24 Ionawr naill ai ddydd Iau 23 Ionawr neu hyd at ac yn cynnwys dydd Mawrth 28 Ionawr.
- London Northeastern Railway
- LUMO
- TransPennine Express
- Northern
- Grand Central
- Avanti