12 Maw 2021
Gall cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru deithio a theimlo’n fwy diogel nag erioed ar ôl i gamerâu corff gael eu darparu ar gyfer tocynwyr a staff gorsafoedd trên.
Bydd mwy na 250 o gamerâu o’r radd flaenaf yn cael eu cyflwyno ar draws 15 lleoliad allweddol o amgylch y rhwydwaith, gan gynnwys Caerdydd, Caer, Abertawe a Phontypridd.
Bydd gan weithwyr TrC gamerâu Axon Body 2 yn sgil arbrawf llwyddiannus y llynedd gyda chydweithwyr yn dewis rhwng pedwar model o gamera.
Yn ystod yr arbrawf, bu’r camerâu’n ganolog fel tystiolaeth yn erbyn pobl sy’n cyflawni troseddau ar y rheilffordd, gan gynnwys troseddau tresmasu.
Dywedodd Rheolwr Gwelliant Parhaus Trafnidiaeth Cymru Chris Watkins: “Er bod y rheilffordd eisoes yn amgylchedd diogel iawn ar gyfer teithio, rydym am roi’r tawelwch meddwl ychwanegol i’n cwsmeriaid a’n cydweithwyr mai eu diogelwch nhw sy’n dod gyntaf. Bydd camerâu Axon hefyd yn sicrhau tryloywder wrth ddilysu unrhyw honiadau am ddigwyddiadau yn gyflym a chywir.”
“Profwyd bod camerâu corff yn ffordd hynod effeithiol o leihau cyfraddau troseddu am eu bod yn rhwystr i droseddwyr ac am fod y dystiolaeth a gasglwn o’r camerâu cystal fel ei bod yn aml yn allweddol i helpu’r heddlu i sicrhau euogfarnau llwyddiannus.
“Dewiswyd cyflenwr ar ôl gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr rheng flaen i ddod o hyd i’r cynnyrch cywir a bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i weithio’n agosach gyda’n partneriaid sef yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i ddatblygu rheilffyrdd mwy diogel i bawb.”
Defnyddir y camerâu HD a gyflenwir gan Axon Enterprise gan brif asiantaethau gorfodi’r gyfraith, gweithredwyr cludiant a sefydliadau sector cyhoeddus ledled y byd.
Caiff yr holl ddata a geglir eu storio a’u trin yn ddiogel gan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn unol â rheoliadau GDPR.
Bellach mae’r hyfforddiant ar ddefnyddio’r camerâu wedi dechrau i weithwyr TrC a bydd y camerâu yn dod yn weithredol yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Dywedodd Uwch-arolygydd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Andy Morgan: “Diogelwch teithwyr a’n cydweithwyr yn y diwydiant rheilffyrdd yw ein prif flaenoriaeth ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w diogelu.
“Rydym yn llwyr gefnogi cyflwyno camerâu corff ar gyfer staff rheng flaen Trafnidiaeth Cymru - rydym yn gwybod o brofiad bod fideo wedi’i wisgo ar y corff yn ddarn gwych o offer sy’n ein helpu i sicrhau euogfarnau yn erbyn pobl sy’n ymddwyn yn dreisgar a sarhaus tuag at staff.
“Rydym yn gobeithio y bydd y camerâu yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn rhoi tawelwch meddwl i staff y rheilffyrdd yn ogystal â theithwyr.
“Yn ffodus, mae digwyddiadau o’r fath yn reit anghyffredin, ond os oes gan unrhyw un unrhyw bryderon wrth deithio, gallant anfon neges destun atom ar 61016.”
Dywedodd Mike Shore, Rheolwr Cyffredinol Axon Enterprise: “Rydym wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth â TrC wrth iddyn nhw arloesi gyda’r defnydd o gamerâu corff a thechnoleg flaengar.
“Drwy fanteisio’n llawn ar rwydwaith Axon, mae TrC yn creu partneriaeth ddi-dor rhwng diogelwch ar drafnidiaeth a chyfundrefn gorfodi’r gyfraith, sef yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, gan rannu tystiolaeth er mwyn sicrhau tryloywder a pharhad.”
Meddai Joshua Hopkins, Rheolwr Cydnerthedd Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, cyn-ringyll BTP: “Ar ôl defnyddio camera AXON yn fy rôl flaenorol, alla i ddim gor-ganmol ansawdd a manteision y darn hwn o offer. Mae’n cael effaith ataliol enfawr ar ymddygiad pobl a gall roi hyder a sicrwydd wrth ddelio â digwyddiadau.”
“Rwy’n annog fy nghydweithwyr i ddefnyddio’r camerâu hyn gymaint ag y gallan nhw, am eu bod yn offer hanfodol i gadw pobl yn ddiogel”
“Mae achosion erlyn yn aml yn dibynnu ar air un yn erbyn y llall ond gall cipio’r digwyddiad ar gamera helpu’r achosion hynny i fynd drwy’r llysoedd. Mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac yn fy mhrofiad innau, chefais i mo ‘ngalw i’r Llys o gwbl i roi tystiolaeth gan fod modd gweld yn uniongyrchol beth oedd wedi digwydd.”
“Mae’r ffaith y gallwn bellach rannu tystiolaeth hanfodol mewn ffordd ddi-dor gyda BTP yn dangos ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth gan gefnogi ein cydweithwyr rheng flaen, a gwneud ein rhwydwaith yn lle mwy diogel”