19 Maw 2019
Gall teithwyr trenau yn Nghymru a’r Gororau arbed mwy o bres nag erioed ar deithiau hirach yng Nghymru wrth i gwmni Trafnidiaeth Cymru lansio’i gynllun prisiau cyntaf i sicrhau bod teithio ar drên yn fwy fforddiadwy i bob teithiwr.
Mae tocynnau Advance newydd, cynllun prisiau cyntaf TrC ers iddo ymgymryd â'r fasnachfraint ym mis Hydref 2018, yn golygu y gall pob teithiwr arbed hyd at 60% ledled rhwydwaith Cymru a’r Gororau ar lawer o siwrneiau newydd dros 50 milltir.
O dan y gweithredwr blaenorol, dim ond ar nifer cyfyngedig o lwybrau yr oedd tocynnau rhatach ar gael i’w prynu.
Tocynnau sengl yw tocynnau Advance ar gyfer trenau penodol, y gellir eu prynu o 12 wythnos a hyd at 6pm cyn y diwrnod teithio. Mae teithwyr yn prynu tocyn Advance arall wedyn ar gyfer y siwrnai yn ôl.
Mae’r tocynnau’n ddilys ar y trên a archebwyd a pho gynharaf y bydd teithwyr yn prynu tocyn, y rhataf y gall fod gydag arbediad o 48% ar gyfartaledd.
Gall teithwyr gadarnhau a oes tocynnau Advance ar gael ar eu llwybr nhw drwy fynd i wefan trctrenau.cymru, lle bydd y pris rhataf wastad yn cael ei amlygu, neu drwy ap TfW Rail.
Ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd TrC fod rhaglen o newidiadau yn “Teithio i Lawr y Lein”, gan fanylu ar y gwelliannau trawsnewidiol a fyddai’n digwydd erbyn 2025.
Mae rhai gwelliannau wedi cychwyn yn barod - maen nhw’n cynnwys glanhau gorsafoedd yn drwyadl ac adnewyddu trenau.
Mae TrC hefyd wedi cyflwyno ‘Ad-daliad am Oedi 15’ sy’n cynnig iawndal neu ad-daliad i gwsmeriaid os yw eu trên fwy na 15 munud yn hwyr.
Ymysg y gwelliannau eraill fydd yn digwydd yn 2019 a 2020 mae lansio tocynnau clyfar a chyflwyno cynlluniau prisiau newydd sy’n cynnwys gwell prisiau i rai 6-18 oed.
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Masnachol a Phrofiad Cwsmeriaid Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn credu bod teithio’n bell ar y trên yn ddrud. Mae tocynnau Advance yn cynnig gwerth am arian gwirioneddol i deithwyr ac rydym yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn cael eu hannog i ddefnyddio’r trên ar gyfer teithiau i ymweld â theulu neu ffrindiau neu am wyliau byr.
“Gwnaethom addewid i’n cwsmeriaid y llynedd y byddem yn gwneud teithio ar y trên gymaint gwell yn y dyfodol fel na fyddwch yn ei adnabod. Mae llawer o waith yn digwydd y tu ôl i’r llenni i wella gorsafoedd, trenau a gwasanaethau, ond mae’n cymryd mwy o amser i gyflawni hyn.
“Rydym wedi ymrwymo hefyd i gynnig gwerth gwirioneddol am arian i gwsmeriaid, ac rydym wedi gallu cyflawni hynny’n gyflymach drwy lansio’r tocynnau Advance newydd hyn sy’n golygu bod teithwyr yn gallu arbed hyd at 60%. Rydym yn gobeithio y bydd tocynnau Advance yn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r trên ar gyfer siwrneiau hirach ar draws Cymru a’r gororau.”
I brynu tocynnau Advance, ewch i wefan trctrenau.cymru, unrhyw swyddfa tocynnau trên neu lawrlwythwch ap TfW Rail.
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i olygyddion
- Yn berthnasol i docynnau dosbarth safonol TrC Trenau yn unig
- Cyfrifwyd yr arbediad o 60% drwy gymharu prisiau tocynnau sengl safonol pwrpasol Advance TrC Trenau, wedi’u prynu cyn y diwrnod teithio, â’r tocyn Sengl Diwrnod Safonol a brynwyd ar y diwrnod teithio.
- Seiliwyd y ffigur o 48% ar yr arbediad cyfartalog wrth brynu tocynnau Advance pwrpasol TrC Trenau o’u cymharu â'r tocyn Sengl Diwrnod Safonol cyfatebol a brynwyd ar y diwrnod teithio (lle mae’r pris wedi’i bennu gan wasanaethau TrC Trenau). Mae’r arbediad cyfartalog yn seiliedig ar 932,317 o deithiau Advance.
- Yn ddilys o 2il Ionawr 2019 tan 20fed Ebrill 2019.