Skip to main content

TfW new online brand shop

02 Mai 2025

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi lansio siop brand ar-lein newydd, sy'n cynnig casgliad unigryw o nwyddau sydd wedi'u cynllunio i ddathlu harddwch Cymru tra'n cefnogi'r rhwydwaith trafnidiaeth yn uniongyrchol

Mae'r siop yn cynnig casgliad o eitemau o lestri diod a phrintiau wedi'u crefftio'n hyfryd i gardiau post a chofroddion arbennig - yr anrheg berffaith neu rodd bersonol sy'n dal hanfod y profiad o deithio ar draws y rhwydwaith.

Caiff llawer o eitemau yn siop brand TrC eu gwneud yng Nghymru, gan ganiatáu i gwsmeriaid gefnogi busnesau lleol wrth fynd â darn o'u taith adre gyda nhw.

Daeth y cysyniad ar gyfer y siop o nifer o awgrymiadau a gyflwynwyd gan staff TrC yn tynnu sylw at yr awydd am nwyddau wedi'u brandio ac eitemau gyda thema Gymraeg.

Trwy weithdai pwrpasol, sbrintiau dylunio, ac ymchwil cwsmeriaid hanfodol, trawsnewidiodd tîm arloesi a chynnyrch newydd TrC y syniadau hyn yn realiti diriaethol, gan ddatblygu prawf o gysyniad a arweiniodd at greu'r siop hon.

Dywedodd Barry Lloyd, Pennaeth Arloesi a Datblygu Cynnyrch Newydd Trafnidiaeth Cymru:

“Mae'r fenter hon yn ffordd wych o gysylltu â'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu ar lefel newydd, gan gynnig eitemau prydferth ac ystyrlon iddynt sy'n dathlu'r rhwydwaith trafnidiaeth yr ydym yn ei wasanaethu.

Yr hyn sy'n gwneud hyn yn fwy arbennig fyth yw bod popeth a brynir yn cyfrannu'n uniongyrchol at wella ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, gan sicrhau bod pob eitem a brynir yn cyfrannu at well profiad teithio i bobl Cymru a'r gororau.

Byddwn yn parhau i archwilio syniadau newydd i'n galluogi i wella ein hoffrymau yn ein siop brand.

Archwiliwch y casgliad unigryw o eitemau Trafnidiaeth Cymru yma: siop.trc.cymru

Mae TrC yn sefydliad nid-er-elw ac mae'r holl arian a gynhyrchir yn cael ei ail-fuddsoddi i mewn i rwydwaith trafnidiaeth pobl Cymru a'r Gororau.

Llwytho i Lawr