Skip to main content

Sherpa’r Wyddfa shines at UK Bus Awards

11 Rhag 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dathlu llwyddiant gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa ar ei newydd wedd yng Ngwobrau Bws y DU eleni.

Ail-lansiwyd Sherpa'r Wyddfa ym mis Gorffennaf y llynedd gan gynnig mwy o wasanaethau a gwell integreiddio i deithwyr sy'n teithio ym Mharc Cenedlaethol Eryri (Eryri) a derbyniodd wobr arian yn y categori Bysiau ar gyfer Hamdden yng Ngwobrau Bws y DU yn The Troxy, Llundain ar dydd Mawrth 28 Tachwedd. Cafodd y gwasanaeth ganmoliaeth uchel hefyd fel rhan o’r categori Mynd am Dwf.

Gyda miloedd o ymwelwyr yn ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri bob blwyddyn, mae Sherpa’r Wyddfa a weithredir gan Gwynfor Coaches, yn cefnogi’r parc cenedlaethol yn gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol trwy gysylltu’r prif lwybrau cerdded, meysydd parcio, pentrefi ac atyniadau’r ardal.

Mae TrawsCymru, fflecsi, rheilffordd a theithio llesol hefyd yn cefnogi’r gwasanaeth Sherpa, sy’n cysylltu Caernarfon, Porthmadog, Bangor a Betws-y-Coed, gan leihau’n sylweddol nifer y cerbydau yn yr ardal.

Mae gwasanaeth newydd Sherpa'r Wyddfa wedi sicrhau gwelliannau enfawr drwy gynnig gwasanaeth rheolaidd am dros 12 awr o'r dydd yn ystod oriau brig gan gysylltu'n uniongyrchol â phrif orsafoedd trenau, gan ddarparu dull cost cyson i gwsmeriaid ac ail-frandio newydd sy'n cyd-fynd â'i wasanaethau o amgylch ac yn dathlu'r iaith Gymraeg.

“Hoffwn estyn fy niolch i’r tîm sydd wedi darparu gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa mewn cyfnod mor fyr ac rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Edward Jones, Pennaeth Eiddo Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae derbyn y Wobr Arian fawreddog yn y categori Bysiau ar gyfer Hamdden yn dyst i werth ac effaith Sherpa’r Wyddfa yn Eryri a hefyd yn amlygu pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth.

“Mae’r cyflawniad hwn nid yn unig yn dathlu trafnidiaeth gynaliadwy ond hefyd ein hymrwymiad i ddarparu ffyrdd amgen i ymwelwyr ymweld â rhanbarth Yr Wyddfa a’r cymunedau cyfagos.”

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd: “Mae’r gydnabyddiaeth hon i’r Sherpa’r Wyddfa yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio i foderneiddio gwasanaeth i gwrdd ag anghenion y cwsmeriaid.

“Mae tîm trafnidiaeth Cyngor Gwynedd wedi gweithio’n agos gyda’n partneriaid i drawsnewid y gwasanaeth. Mae’r Sherpa’r Wyddfa newydd yn cyfuno teithiau sy’n galluogi trigolion Gwynedd i wneud teithiau dydd-i-ddydd pwysig, gydag adnodd teithio defnyddiol i bobl sy’n ymweld â’r ardal.

“Diolch i’r cynllunio gofalus hwnnw, mae llawer mwy o bobl bellach yn gwneud y mwyaf o rwydwaith rhagorol o wasanaethau bws i’w cludo o amgylch Eryri mewn ffordd gynaliadwy.”

Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dros yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Seilwaith: “Rydym wrth ein bodd bod y bws Sherpa wedi cael ei gydnabod gyda’r wobr hon yng Ngwobrau Bws y DU. Mae’r Sherpa yn wasanaeth pwysig i’r rhanbarth ac yn cynnig gwell mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus ym Mharc Cenedlaethol Eryri i ymwelwyr yn ogystal â chymunedau yn ne Sir Conwy.”

Llwytho i Lawr