21 Awst 2025
Mae sgrin ddigidol newydd, sy'n mesur ychydig dros 100m², wedi cael ei lansio y tu allan i Gyfnewidfa Fysiau Caerdydd ac mae disgwyl iddi drawsnewid profiad teithwyr.
Cafodd y nodwedd amlwg newydd hon, sy'n ganlyniad partneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru (TrC), Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, ei hagor a'i chomisiynu i'w defnyddio’n swyddogol yn ystod seremoni a fynychwyd gan Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Adrian Robson a'r Faeres, y Cynghorydd Jayne Cowan.
Bydd y sgrin newydd, a weithredir gan Route Media, yn arddangos diweddariadau teithio a chyhoeddiadau cyhoeddus, tra hefyd yn cynhyrchu refeniw trwy bartneriaethau hysbysebu gyda busnesau lleol a chenedlaethol.
Bydd yr holl refeniw a gynhyrchir yn cael ei ailfuddsoddi'n uniongyrchol yn ôl yn y rhwydwaith. Bydd yr incwm yn cael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau, gwella profiad teithwyr, talu costau gweithredol y gyfnewidfa a chefnogi’r gwaith o uwchraddio’r seilwaith yn y dyfodol.
Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru:
“Mae’r sgrin yn garreg filltir bwysig yn y broses o ddigideiddio ein rhwydwaith ac mae hi eisoes yn denu sylw.”
“Mae hwn yn fwy na sgrin yn unig; mae'n offeryn cyfathrebu pwerus ac yn symbol o'n huchelgais i foderneiddio profiad pob teithiwr - p'un a ydych chi'n teithio i'r gwaith, yn ymweld neu'n digwydd pasio, mae'n werth cael cipolwg arni."
Yn ogystal â'i swyddogaethau dyddiol, mae'r sgrin wedi'i chymeradwyo ar gyfer dangos darllediadau teledu byw. Gallai'r sgrin drawsnewid Sgwâr Canolog Caerdydd yn ardal gyhoeddus fywiog ar gyfer digwyddiadau mawr cyn bo hir, gan hybu nifer yr ymwelwyr a chefnogi busnesau lleol.
Nodiadau i olygyddion
- Trafnidiaeth Cymru sy'n berchen ar y sgrin ddigidol newydd ac fe'i gweithredir gan Route Media. Am gyfleoedd hysbysebu, cysylltwch â: dean.jones@dragon-group.co.uk
- Ni fydd gwybodaeth ynghylch amserlenni trenau na bysiau sy'n rhedeg naill ai o orsaf Caerdydd Canolog neu Gyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn cael ei harddangos ar y sgrin hon.
- Cwblhawyd y gwaith o adeiladu a gosod y sgrin gan Dragon Signs.
- Mae'r sgrin yn mesur 17m × 6m ac mae wedi'i gwneud o 102 o gabinetau, sy'n cyfateb i dros 1.6 miliwn o bicseli. Mae gan y sgrin ddisgleirdeb o 7500 nits ac mae ganddi synhwyrydd golau awtomatig i sicrhau gwelededd rhagorol mewn amodau llachar a thywyllu awtomatig yn y nos.
Gyda chyfradd adnewyddu uchel, mae'r sgrin hefyd yn gallu sicrhau delweddau llyfn ar ffurf fideo a delweddau llonydd.