Skip to main content

Transport for Wales Advance Ticket Sale

18 Ion 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig tocynnau trên advance rhatach i gwsmeriaid ar gyfer teithiau dros hanner can milltir fel ffordd arall o annog teithio mwy cynaliadwy yn 2023.

Gan lansio ar 16 Ionawr, gall cwsmeriaid gael 40% oddi ar docynnau trên advance ar gyfer teithiau rhwng 30 Ionawr a 5 Mawrth 2023. 

Dyma’r ail gynnig gan Trafnidiaeth Cymru yn 2023, roedd y cynnig Multiflex cyntaf (a lansiwyd yr wythnos diwethaf) sef 12 tocyn am bris 6 wedi’i anelu at gymudwyr rheolaidd;  mae’r cynnig ychwanegol hwn wedi’i anelu at y rheini sy’n bwriadu teithio am gyfnod hirach.     

I helpu gyda’r argyfwng costau byw, mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cynnig cyfle i gwsmeriaid rannu taliadau am docynnau dros dri rhandaliad.  

Dywedodd Alexia Course, Prif Swyddog Masnachol Trafnidiaeth Cymru:  

“Rydym yn ymwybodol iawn bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar bawb ar hyn o bryd a hoffem chwarae ein rhan i helpu ein cwsmeriaid lle gallwn ni.  Rydym am annog mwy o bobl i ddewis trafnidiaeth gyhoeddus a theithio’n gynaliadwy a dyma ffordd arall eto o wneud hynny. 

“Fe wnaethom lansio ein cynnig Multiflex yr wythnos diwethaf ac mae’r cynnig ychwanegol hwn wedi’i anelu at y rhai sydd eisiau teithio ychydig ymhellach, efallai am seibiant neu i ymweld â ffrindiau neu berthnasau.”  

Nodiadau i olygyddion


Mae'r cynnig hwn yn ddilys am 2 wythnos, ar gyfer teithiau dros 50 milltir gyda Tocynnau Advance.  Rhaid defnyddio tocynnau a brynir ar gyfer teithio rhwng 30 Ionawr 2023 a 5 Mawrth 2023. 

Daw'r cynnig i ben ar 29 Ionawr.