Skip to main content

First Class upgrades on selected TfW services now available on Seatfrog

03 Rhag 2024

Gall teithwyr nawr brofi moethusrwydd cerbyd Dosbarth Cyntaf am lai ar rai gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TrC) diolch i bartneriaeth newydd gyda Seatfrog.

Mae Seatfrog yn galluogi cwsmeriaid i brynu neu wneud cais i uwchraddio eu tocyn i un Dosbarth Cyntaf, gan sicrhau'r cysur, lletygarwch a gwasanaeth cwsmeriaid gorau am ffracsiwn o'r gost arferol.

Mae bellach ar gael ar rai o wasanaethau mwyaf poblogaidd TrC rhwng Caerdydd a Chaergybi a Chaerdydd a Manceinion.

Dywedodd Jonathan Jones, Pennaeth Twf Rhwydwaith TrC: “Rydym yn falch iawn o weithio gyda Seatfrog a chynnig cyfle i'n cwsmeriaid gael profi teithio mewn cerbyd Dosbarth Cyntaf am bris rhagorol.”

Os ydych chi eisoes yn teithio'r Nadolig hwn ar lwybrau cymwys ac eisoes wedi prynu tocyn Safonol, gall Rheolwr y Trên eich helpu i uwchraddio i docyn Dosbarth Cyntaf ar y diwrnod ar y trên, neu gallwch uwchraddio eich tocyn i docyn Dosbarth Cyntaf am lai o gost gyda Seatfrog.

Iain Griffin, Prif Swyddog Gweithredol SeatFrog: "Rydyn ni’n falch o weithio mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru i gynnig ffordd fforddiadwy i deithwyr uwchraddio i Dosbarth Cyntaf. Mae ein hymrwymiad ar y cyd i ddarparu teithiau eithriadol yn golygu y bydd mwy o deithwyr nawr yn cael y cyfle i brofi teithiau cyfforddus ac ansawdd gyda'r seddi gorau ar y trên."

Sut mae Seatfrog yn gweithio?

  1. Lawrlwythwch ap Seatfrog

O agor cyfrif Seatfrog, nodwch eich cyfeirnod archebu, neu ddefnyddio nodwedd chwilio am drên Seatfrog.  Bydd yr ap yn eich hysbysu a oes modd uwchraddio eich tocyn ar gyfer y daith honno. 

  1. Gwneud cais i uwchraddio neu uwchraddio ar unwaith

Cymryd rhan mewn arwerthiant: Nodwch sawl tocyn rydych yn awyddus i’w huwchraddio. Does dim cost i gymryd rhan yn yr arwerthiant a dim ond os enillwch chi y bydd cost.

I uwchraddio ar unwaith: Os ydych chi eisiau uwchraddiad cyflym heb y risg bod rhywun arall yn eich curo yn yr arwerthiant, defnyddiwch opsiwn uwchraddio ar unwaith Seatfrog.

  1. Uwchraddio eich taith

Bydd Seatfrog yn anfon eich cod-bar uwchraddio yn syth i'ch ffôn symudol. Cofiwch ddod a chod-bar y tocyn gwreiddiol a'r cod-bar uwchraddiad Dosbarth Cyntaf ar y daith.

Felly, waeth os ydych ar daith busnes neu bleser, mae Seatfrog yn codi llai am uwchraddio tocyn.

Nodiadau i olygyddion


Telerau ac Amodau

  • Caiff y nifer o uwchraddiadau fydd ar gael ar bob trên eu pennu gan nifer yr archebion a wneir ymlaen llaw am docynnau Dosbarth Cyntaf.
  • Gall cwsmer a chyd-deithwyr sydd a'r un cod archebu ond ddefnyddio arwerthiant uwchraddio tocyn neu uwchraddiad ar unwaith Seatfrog gyda thocyn Safonol Advance, Safonol Allfrig, Safonol Allfrig Uwch neu Safonol Anytime, ac yn teithio ar un o drenau Trafnidiaeth Cymru (TrC).
  • Mae pob uwchraddiad Seatfrog yn ddilys i un teithiwr ar gyfer taith unffordd ar ddyddiad ac amser penodol yn unig.
  • Nid oes modd trosglwyddo tocynnau sydd wedi'u huwchraddio.
  • Gall cwsmeriaid sy'n teithio mewn grŵp a chyda'r un cyfeirnod archebu gymryd rhan mewn arwerthiant Seatfrog er mwyn gallu ymgeisio am uwchraddiad ar gyfer tocynnau’r grŵp cyfan. Gall unrhyw aelod o'r grŵp gofrestru gyda Seatfrog ac ymgeisio am fwy nag un sedd. Os byddant yn llwyddiannus, cyhoeddir nifer y tocynnau a gaiff eu huwchraddio ar eu dyfais. Oherwydd natur munud olaf arwerthiannau Seatfrog, ni allwn warantu y gall pawb yn y grŵp yn eistedd gyda'i gilydd.
  • Unwaith y telir y ffi uwchraddio, anfonir cod-bar Dosbarth Cyntaf i'r cwsmer ar gyfer y nifer penodol o uwchraddiadau i ap Seatfrog. Rhaid dangos pob cod bar uwchraddio a anfonir i ffôn symudol y cwsmer, ynghyd â thocyn Dosbarth Safonol dilys, i Reolwr y Trên. Hefyd, rhaid bod gan gwsmeriaid eu tocyn(nau) Dosbarth Safonol gwreiddiol er mwyn gallu agor y gât tocynnau. Mae'r cod-bar uwchraddio Dosbarth Cyntaf yn annilys oni bai y caiff ei gyflwyno gyda thocyn Dosbarth Safonol.
  • Rheolwr y Trên fydd yn dilysu tocynnau sydd wedi'i uwchraddio gan Seatfrog. Os na all y cwsmer ddangos cod bar dilys ar eu dyfais symudol, bydd rhaid iddynt dalu'r gwahaniaeth rhwng pris tocyn Dosbarth Cyntaf a phris eu tocyn Safonol cyfredol. Cyfrifoldeb y cwsmer yw sicrhau bod batri eu dyfais symudol wedi’i wefru. Gall y tocynnau gael eu dilysu ar unrhyw gam o'r daith.
  • Nid oes modd cael ad-daliad am docyn Seatfrog sydd wedi'i huwchraddio oni bai bod y cwsmer yn methu teithio oherwydd bod trên TrC wedi'i oedi neu wedi'i ganslo neu os nad yw seddi Dosbarth Cyntaf ar gael ar wasanaeth penodol.
  • Er bod pris uwchraddiad tocyn Seatfrog yn cynnwys lluniaeth a byrbrydau, mae'n rhaid talu pris ychwanegol am bryd o fwyd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i tfw.wales/ways-to-travel/rail/food-and-drink/first-class-diningtrc.cymru/ffyrdd-o-deithio/rheilffordd/bwyd-a-diod/ciniawa-or-radd-flaenaf  

Llwytho i Lawr