Skip to main content

Spotlight on: Llandrindod Wells

02 Ebr 2019

Tref SBA yng nghalon Cymru

GYDA’i hysblander Fictoraidd cain, ei llu o siopau annibynnol a’i golygfeydd godidog, mae Sba Llandrindod yn un o berlau rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru.

Mewn byd o drefi diddychymyg lle mae bob stryd fawr yr un fath, mae un gair yn disgrifio Llandrindod i'r dim - hudolus. 

A hithau’n swatio yng nghanol bryniau tonnog Sir Faesyfed, mae'r dref wedi ennill bri fel lleoliad i gynnal digwyddiadau gyrru ceir rali mawr a bowlio rhyngwladol, tra bo ei hamryfal westai a’i chyfoeth o leoedd i fynd am dro yn ei gwneud yn gyrchfan ddelfrydol ar gyfer seibiant bach yn y wlad am benwythnos.       

Cyrraedd yno

Mae Llandrindod rhyw 1 awr 30 munud o daith o'r Amwythig a 2 awr 15 munud o Abertawe ar hyd Lein Calon Cymru. Mae'r orsaf wedi'i lleoli yng nghanol y dref.

IMG 0902

(Gorsaf Llandrindod) 

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o hyrwyddo llwybr cerdded Calon Cymru drwy annog ymwelwyr i adael eu car gartref a defnyddio’r trên a cherdded er mwyn cael blas gwirioneddol o gefn gwlad Cymru a Swydd Amwythig ar ei orau. 

Mae'r llwybr, sy’n 141 milltir o hyd, yn cysylltu gorsafoedd ar hyd y lein, gyda Llandrindod yn y canol.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: www.heart-of-wales.co.uk/cy/home

Mae teithwyr sy'n defnyddio'r lein yn rheolaidd yn gallu cael Cerdyn Rheilffordd lein Calon Cymru am £10 er mwyn arbed 34% ar bob siwrnai yma.

Gallwch hefyd brynu tocyn cylch Day Ranger ar gyfer y lein sy’n caniatáu ichi deithio o Gaerdydd i'r Amwythig neu Abertawe, cyn teithio ar y lein a dod yn ôl ar hyd y brif lein.   Rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Atyniadau ac ychydig o wybodaeth am y dref

Er bod Llandrindod yn adnabyddus ers tro byd am ei dyfrodd sba, dim ond yn ystod blynyddoedd olaf oes Fictoria a blynyddoedd cynnar y cyfnod Edwardaidd ar ôl dyfodiad y rheilffordd ym 1865 y dechreuodd y dref dyfu.

Parodd y twf economaidd hwnnw tan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf wrth i wasanaethau i deithwyr arwain at fwy o alw am y dyfroedd mwynol.

Er nad oes modd mynd at nifer fawr o'r ffynhonnau erbyn hyn, mae’n bosibl o hyd i chi flasu dyfroedd y ffynnon Haearnol yng nghanol Rock Park am ddim.    Tafliad carreg o'r parc mae llyn Llandrindod lle gallwch logi cwch, mwynhau hufen ia neu fynd am dro bach hamddenol o amgylch y llyn.

IMG 0883

(Cip ar un o ffynhonnau enwog Llandrindod yn Rock Park)

IMG 0888

(Y Ffynnon Haearnol)

Mae'r dref yn arbennig oherwydd y nifer fawr o westai mawreddog ac adeiladau urddasol wedi'u gwneud o frics melyn o chwareli sir Faesyfed sydd ynddi.  Mae’r rhain yn deillio’n ôl i oes Fictoria.  Felly mae’n briodol fod y dref yn adnabyddus am ei Gŵyl Fictoraidd, pan mae pobl o bob man yn tyrru yno i ddathlu pob math o bethau sy'n gysylltiedig â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Yma hefyd ceir un o lawntiau bowlio gorau Prydain, lle y cynhelir digwyddiadau rhyngwladol yn rheolaidd, ac mae nifer o chwaraewyr rhyngwladol o Gymru yn dal i fyw yn yr ardal.

Mae rhai o brif atyniadau Llandrindod yn cynnwys y canlynol:

  • Dyfroedd sba a chanolfan dreftadaeth Rock Park
  • Cychod olwyn a llyn Llandrindod
  • Yr Amgueddfa Seiclo Genedlaethol
  • Amgueddfa Sir Faesyfed
  • Llwybrau cerdded Llwybr Treftadaeth y Dref a lein Canol Cymru
  • Lawntiau bowlio rhyngwladol
  • Gŵyl Fictoraidd, 19 i 25 Awst 2019
  • Yr Amgueddfa Cabanau Signalau