Skip to main content

Temporary bus stop for TrawsCymru T1 and T5 services during A482 Roadworks

16 Chw 2026

Cynghorir teithwyr Trafnidiaeth Cymru y bydd gwasanaethau T1 a T5 TrawsCymru yn defnyddio safle bws dros dro oherwydd gwaith ailwynebu sy'n cau'r ffordd yn Aberaeron.

Bydd yr A482 yn Aberaeron ar gau rhwng 16 Chwefror a 20 Chwefror ar gyfer gwaith ailwynebu a fydd yn cael ei gwblhau mewn tri cham. Yn ystod pob cam, bydd cyfyngiadau ar hyd y ffordd rhwng 8am a 6pm a bydd yn effeithio ar wasanaethau bysiau yn yr ardal tra bydd y gwaith yn mynd rhagddo.  

Newidiadau Allweddol i'r Gwasanaeth:

  • Cyfnod Un (16 Chwefror – 17 Chwefror): Rhwng 8am a 6pm, bydd gwasanaethau T1 a T5 yn defnyddio safle dros dro gyferbyn â thafarn y Royal Oak.
  • Cyfnodau Dau a Thri (18 Chwefror – 20 Chwefror): Bydd gwasanaethau'n dychwelyd i'w safleoedd arferol, er bod cyfyngiadau ffyrdd yn parhau o 8am i 6pm.

Cynghorir teithwyr i wirio cyn iddynt deithio gan y gallai teithiau gael eu gohirio.

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://traws.cymru/cy/aberaeron-road-works

Llwytho i Lawr